Ti a Dy Gorff
gan Adam Kay
Adapted by Eiry Miles
Oedran diddordeb: 10 i 11
Oedran darllen: 9+
Cyhoeddwr Rily Publications, 2023
Am y llyfr hwn
Mae creu llyfr ffeithiol sydd hefyd yn gwneud i blant chwerthin yn dipyn o her ond dyna’n union mae Adam Kay wedi llwyddo i’w wneud yn y llyfr hwn. Mae addasiad Eiry Miles yn gwneud cyfiawnhad â’r gwreiddiol ac yn llwyddo i gyfleu arddull unigryw Kay. Mae’r awdur yn tywys y darllenydd o amgylch y corff gan rannu pob math o ffeithiau. Mae’n amlwg yn adnabod ei ddarllenydd felly mae digonedd o ffeithiau ffiaidd rhwng y cloriau yma! Trwy gyfuniad o arddull doniol a darluniau Henry Parker, mae’r llyfr yn gwneud darllen am bwnc cymhleth yn brofiad hwyliog.
Dyma destun bydd yn tanio diddordeb ar draws y cwricwlwm ond yn enwedig ym meysydd: Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Iechyd a Lles.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Weird Philosophy
9 i 14 years
-
Become a Genius in a Year
5 i 14 years
-
The Wild Life of Animals
9 i 14 years
-
Unfairies
5 i 14 years