The Adventures of Rap Kid
gan MC Grammar
Oedran diddordeb: 9 i 11
Oedran darllen: 8+
Cyhoeddwr Simon & Schuster
Am y llyfr hwn
Dewch i gyfarfod â Z. Nid yw Z byth yn siarad yn yr ysgol, oherwydd pan fydd yn siarad, mae’n odli’n awtomatig.
Mae hyn yn golygu ei fod yn aml yn cael ei fwlio - neu’n cael i drafferthion am beidio â siarad. Ond mae’n gwybod y gall fod y rapiwr gorau erioed, a gyda’r Royal Rap Rumble yn dod i’r dref i ddarganfod yr arwr rap nesaf, mae ganddo gyfle i ddangos ei fariau i bawb.
A gyda’i ffrind newydd SFX wrth ei ochr, yn gwneud bît-bocsio anhygoel, sut allan nhw golli? Wel, yn gyntaf bydd yn rhaid i Z siarad yn gyhoeddus... a sefyll a brwydro yn hytrach na chuddio. A all e ei wneud?
Trwy’r stori gyfan, mae Z yn siarad â’r darllenydd yn uniongyrchol. Ceir elfen gref, ddifyr o ryngweithio, lle’r ydych chithau hefyd yn ysgrifennu eich gwrthrych lwcus i lawr, y pethau y mae eich mam yn eu dweud, a hyd yn oed yn rhoi tic mewn blwch i ddweud wrth Z beth i’w wneud nesaf.
Mae’n llawn nodiadau ar yr ymylon, rhestrau, jôcs, gwahanol senarios - fel y mae Z ei hun yn ei ddweud, mae ei ymennydd yn bownsio o gwmpas llawer. Ceir canllaw ar sut i ysgrifennu eich rap eich hun, geirfa o dermau rap, a chynhyrchydd enw rap, ac mae’r rhestr o enwau penodau yn creu rap hefyd. Llawer o hwyl!
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Kofi and the Rap Battle Summer
9 i 14 years
-
Cold Turkey
9 i 14 years
-
Grimstink
9 i 14 years
-
Weird Philosophy
9 i 14 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: Ar gyfer plant 8 i 9 oed
Y llyfrau gorau o 2025-6 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 8-9 oed.