English Cymraeg

Squid Squad: Nothing to Sea Here...

gan Aoife Dooley

Oedran diddordeb: 6 i 8
Oedran darllen: 5+

Cyhoeddwr Scholastic, 2025

  • Funny
  • Graphic novels

Am y llyfr hwn

Ymhell i lawr ar waelod y môr mewn tref o’r enw Nowhere (yng nghanol unlle), mae grŵp o greaduriaid rhyfedd a rhyfeddol yn byw. Ceir Ollie y môr lawes fampir, cwningen fôr o’r enw Zing, anemoni, cythraul môr a llawer mwy o anifeiliaid dyfnfor anarferol. Gyda’i gilydd, nhw yw’r Squid Squad.  

Ymunwch â’r criw wrth iddyn nhw fwynhau anturiaethau ysgafngalon a doniol iawn yn eu tref enedigol ddyfrol. Datryswch achos y morfil dirgel sy’n torri gwynt, dewch o hyd i fyd cyfrinachol wedi’i guddio mewn toiled ac, yn bwysicaf oll, cadwch Zing oddi wrth gacennau siocled! 

Mae nofel luniau newydd Aoife Dooley ar gyfer darllenwyr iau yn llawer iawn o hwyl. Ceir cymeriadau hoffus i ddod i’w hadnabod, llwyth o hiwmor gwallgof a gwaith celf bywiog drwy’r llyfr cyfan i gadw plant wedi’u diddanu. Mae’r sgyrsiau rhwng Ollie, Zing a’u ffrindiau yn llawer o hwyl ac yn ein hatgoffa o helyntion rhyfedd SpynjBob Pantsgwâr - yn enwedig chwilfrydedd ac egni diderfyn Zing. 

Gyda phedair stori fer i’w mwynhau, ffeithiau go iawn am greaduriaid môr i’w dysgu a fformat a lefel testun hygyrch iawn, mae hwn yn ddewis gwych i ddarllenwyr annibynnol newydd fynd i’r afael ag ef!

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn