English Cymraeg

Speak Up!

gan Rebecca Burgess

Oedran diddordeb: 9 i 11
Oedran darllen: 9+

Cyhoeddwr Quill Tree Books, 2022

  • Graphic novels
  • Autistic spectrum conditions

Am y llyfr hwn

Mae gan Mia gyfrinach fawr – ar-lein, hi ydy Elle-Q, seren bop feirol ac ysbrydoliaeth i lawer o bobl yn eu harddegau.

Fodd bynnag, mewn bywyd go iawn, does gan Mia ddim llawer o ffrindiau ac mae’n cael ei bwlio oherwydd ei bod hi’n awtistig. Yn ffodus, mae ei ffrind gorau Charlie yn ei deall hi i’r dim, ac maen nhw’n cydweithio ar gerddoriaeth Elle-Q.

Pan mae yna sioe dalent leol, mae Charlie’n awyddus iawn i gymryd rhan. Mae siawns dda ganddyn nhw o ennill. Ond ydy Mia’n barod i ddangos i’r byd pwy ydy hi go iawn?

Wedi’i ysgrifennu a’i ddarlunio gan berson awtistig, mae’r nofel graffig hon yn hawdd i’w darllen ac yn wirioneddol gynhesu’r galon. Mae yna is-blot am gyfeillgarwch a ffitio i mewn, a fydd yn gyfarwydd i unrhyw ddarllenydd.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn