Rôr! Rôr! Deinosor Ydw I! / Roar! Roar! I’m a Dinosaur!
gan Jo Lodge
Oedran diddordeb: 1 i 3
Cyhoeddwr Atebol Cyfyngedig, 2024
Am y llyfr hwn
Dewch i gwrdd â deinosoriaid lliwgar yn y llyfr bwrdd rhyngweithiol hwn ble gall y plant lleiaf wthio’r tabiau ar bob tudalen i ddod â’r deinosoriaid yn fyw – wel, curo’u hadenydd neu stampio’u traed neu chwifio’u cynffon, beth bynnag! Mae pob tudalen yn cyflwyno deino gwahanol, gyda ffaith syml am bob un a geiriau gweithred cysylltiedig.
Weithiau gall enwau deinosoriaid fod yn anodd eu dweud, ond fan hyn, torrir y geiriau yn ôl eu sain i helpu darllenwyr i’w hyngan, sydd hefyd yn peri i’r plant bach feddwl am seiniau gwahanol, sy’n wych ar gyfer datblygu iaith. Ac mae’r ‘fflapiau llithro’ i symud y deinosoriaid yn helpu gyda sgiliau echddygol main, yn ogystal â bod yn lot o sbri!
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Pwy sy'n Cuddio ar y Ffermm
0 i 4 years
-
Busy Garden / Gardd Brysur
2 i 4 years
-
Annwyl Sw / Dear Zoo
0 i 7 years
-
Pwy sy'n Cuddio ar y Ffermm
0 i 4 years