English Cymraeg

Amser Gwely, Panda / Time for Bed, Panda

gan Jo Lodge

Oedran diddordeb: 0 i 2

Cyhoeddwr Dref Wen, 2022

  • Board books

Mae’r llyfr hwn ar gael hefyd mewn English

Am y llyfr hwn

Mae panda â llygaid gwgli (y gallwch chi eu symud â’ch bysedd i greu sawl golwg wahanol) yn paratoi i fynd i’r gwely: cael bath, brwsio ei dannedd a darllen stori cyn swatio o dan y dwfe. Bob yn ail dudalen, mae Panda yn gofyn i’r darllenwyr a allan nhw ailadrodd tri gair perthnasol gyda hi: bath, swigod a thywel ar un dudalen, a gwely, lleuad a llaeth ar un arall. Gall babanod a phlantos bach hefyd fwynhau rhoi eu bysedd drwy’r tyllau crwn yn y llyfr a throi’r tudalennau fel yna.

Dyma lyfr bwrdd annwyl llawn cwtshys i’r plantos bach. Bydd apêl y llyfr hefyd yn parhau wrth i’r babanod ddod droi’n blantos bach a dechrau dysgu geiriau. Bob yn ail dudalen, mae yna ychydig o eiriau’n unig i bwyntio atyn nhw a’u dweud, ond mae hynny’n ddigon i gychwyn arni, a chael y plant i ddod yn gyfarwydd â gweld pethau a dweud eu henwau, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gallu darllen. Mae’r llygaid gwgli yn elfen hwyliog arall sy’n gyfle i chwarae gyda’r llyfr hefyd.

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn