Busy Garden / Gardd Brysur
darluniau gan Leesh Li
Adapted by Elin Meek
Oedran diddordeb: 2 i 3
Oedran darllen: 5+
Cyhoeddwr Dref Wen, 2024
Am y llyfr hwn
Mae dau blentyn â bysedd gwyrdd yn brysur yn yr ardd yn y llyfr bwrdd rhyngweithiol hwn i’r plant lleiaf. Mae pob tudalen ddwbl yn dangos gweithgaredd gwahanol yn yr ardd. O blannu hadau blodau haul a darganfod trychfilod, i chwarae ar y siglen a chael gêm o guddio, mae cymaint i’w weld a’i fwynhau yn eu gwerddon fach werdd eu hunain.
Gyda thabiau llithro tynnu a gwthio ar bob tudalen, gan alluogi i’r darllenwyr bach ‘dyfu’ blodau haul, neu ‘wthio’ merch fach ar y siglen, mae’r llyfr yn wych ar gyfer datblygu sgiliau echddygol manwl cynnar. Yn ogystal â'r testun syml sy’n odli, mae’r defnydd o gwestiynau mewn swigen siarad ar bob tudalen ddwbl yn annog mwy o ymgysylltu, yn ogystal â hwb trafod i oedolion sy’n darllen gyda’u plentyn bach.
Mae llawer o fanylion bach yn y darluniau bras y gall y plant bach dynnu sylw atynt, ac mae’r llyfru yn hybu gwerth chwarae ac ymgysylltu â natur sy’n bodoli ar garreg ein drws mewn ffordd gadarnhaol.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Pwy sy'n Cuddio ar y Ffermm
0 i 4 years
-
-
Annwyl Sw / Dear Zoo
0 i 7 years
-
Pwy sy'n Cuddio ar y Ffermm
0 i 4 years