One in a Million
gan Smriti Halls, darluniau gan Nila Aye
Oedran diddordeb: 4 i 5
Cyhoeddwr HarperCollins Children's Books, 2025
Am y llyfr hwn
Mae Debra y sebra wedi dysgu sut i gyfrif! Ond pan fydd yn ceisio cyfrif ei streipiau ei hun, mae’n mynd ar goll ar ôl deg. Wrth lwc, mae ei mam wrth law, ac maen nhw’n cyfrif hyd at filiwn a dau! Mae Debra wrth ei bodd â pha mor wych yw rhifau. Ond mae ganddi un cwestiwn crynedig: gan fod cynifer o sebras ar y paith, sut wnaiff ei mam ddod o hyd iddi eto?
Stori dwymgalon am gariad rhieni, a phleser rhifau! Caiff y darllenydd ei dywys drwy’r rhifau un i ddeg, gan gyfrif chwilod a gloÿnnod byw a’r natur o amgylch Debra, a cheir llawer o egni a boddhad gan y sebra bach o ddarganfod ei byd a’i rifau. Gallai plentyn sy’n gwrando ar y stori fwynhau cyfrif pob elfen ar y dudalen neu bwyntio atyn nhw. Mae’r lluniau swynol yn dangos lleoliad godidog y paith a brwdfrydedd Debra mewn ffordd hyfryd. Mae’r testun yn rhigwm rhythmig rhydd, sy’n ei wneud yn bleser i’w ddarllen ar lafar hefyd. Hyfryd!
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Beth yw'r Amser, Bwci Bo? / What's the time, Bwci Bo?
gan Joanna Davies, darluniau gan Steven Goldstone
2 i 7 years
-
The Jellyfish Jiggle
gan Caryl Hart, darluniau gan Nicola Slater
3 i 7 years
-
The Footballing Fairy
gan Elli Woollard, darluniau gan Irina Avgustinovich
4 i 5 years
-
The Bear and the Hare and the Fair
gan Em Lynas, darluniau gan Matt Hunt
4 i 5 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: ar gyfer plant 4 i 5 oed
Y llyfrau gorau o 2024–25 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 4–5 oed