Nic Blake and the Remarkables: The Manifestor Prophecy
gan Angie Thomas
Oedran diddordeb: 12 i 14
Oedran darllen: 9+
Cyhoeddwr Walker Books, 2023
Am y llyfr hwn
Mae Nic Blake yn un o’r grŵp Manifestor – pobl Ddu sydd â’r Ddawn o’u mewn – ac sy’n gallu gweld fampirod, bleidd-ddynion a phob math o fodau hynod. Mae ei ffrind gorau anhynod JP yn byw drws nesaf – ond mae e yn hynod oherwydd ei frwdfrydedd dros lyfrau ffantasi TJ Retro a thros gadw cwmni i Nic.
Eto, pan maen nhw’n cyfarfod eu hoff awdur, mae popeth y mae Nic yn meddwl ei bod yn gwybod yn troi ben i waered, ac mae’n rhaid i’r ffrindiau frwydro i achub tad Nic.
Antur ffantasïol gyflym, ddiddorol, llawn hiwmor a chalon, gyda digonedd yn digwydd ac adegau dyfeisgar i gadw darllenwyr yn rhuthro drwy’r tudalennau. Mae llais naratif Nic yn taro i’r dim, ac mae JP yn gymeriad doniol tu hwnt.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Unfairies
5 i 14 years
-
Hero Wanted!
9 i 14 years
-
Mallory Vayle and the Curse of Maggoty Skull
9 i 14 years
-
Rune: The Tale of a Thousand Faces
9 i 14 years