Martha Maps it Out
gan Leigh Hodgkinson
Oedran diddordeb: 4 i 5
Oedran darllen: 7+
Cyhoeddwr Oxford University Press, 2022
Am y llyfr hwn
Mae Martha wrth ei bodd yn tynnu llun mapiau er mwyn gwneud synnwyr o'r byd o'i chwmpas. Gan ddechrau ym mhellteroedd y gofod, mae pob map yn y llyfr yn closio'n nes ac yn nes at fyd mewnol Martha ei hun. Mae yna fap o blaned y Ddaear, map o'r ddinas, y blocdwr a'r ystafell wely lle mae Martha'n byw – a hyd yn oed map o Martha ei hun.
Gan gyfuno labeli ffeithiol â manylion difyr yn benodol i sefyllfa Martha ei hun, mae hwn yn llyfr sy'n cynnig dysgu heb fod yn drwm a neges bositif am freuddwydio'n fawr. Mae'r darluniau hyfryd gweadog a phatrymog yn cyd-fynd yn berffaith ag optimistiaeth a chreadigrwydd Martha.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Ble Wyt Ti, Bwci Bo? / Where are you, Bwci Bo?
gan Joanna Davies, darluniau gan Steven Goldstone
4 i 7 years
-
Cyfri Defaid
gan Enlli Lewis, darluniau gan Gareth Brown
3 i 7 years
-
Bwyd y Stryd, Bwyd y Byd
gan Gail Sequeira, darluniau gan Valeriane Leblond
5 i 9 years
-
Ni a Nhw
gan Sioned Wyn Roberts, darluniau gan Eric Heyman
5 i 9 years