The Artist
gan Ed Vere
Oedran diddordeb: 4 i 5
Oedran darllen: 5+
Cyhoeddwr Penguin Random House, 2023
Am y llyfr hwn
Mae deinosor ifanc sy'n artist yn gweld y byd fel lle llawn llawenydd a harddwch – rhywbeth y mae rhai deinosoriaid yn rhy brysur i sylwi arno. Mae hi'n tynnu llun ac yn paentio'r llawenydd a'r harddwch hwnnw ac yn creu ei chelf ohono.
Yn ddiweddarach, mae hi'n penderfynu mynd i fyw yn y ddinas gyda llawer o waliau gwag i'w paentio fel bod mwy o bobl yn gallu gweld ei chelf ac edrych o ddifrif. Ond mae hi'n colli'i hyder pan mae hi'n dechrau gwneud camgymeriadau a lliwio y tu allan i'r llinellau. Mae bron â rhoi'r ffidl yn y to â'i chelf nes iddi sylweddoli mai'r galon yn y celf sy'n wirioneddol bwysig.
Mae'r llyfr yn berffaith i'w ddarllen gyda phlant sydd wedi dechrau tynnu lluniau ond sydd weithiau'n colli calon pan nad yw eu llun yn troi allan yn union fel maen nhw'n ei weld yn eu pennau, fel sy'n digwydd mor aml.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Cyfri Defaid
gan Enlli Lewis, darluniau gan Gareth Brown
3 i 7 years
-
The Tour at School
gan Katie Clapham, darluniau gan Nadia Shireen
2 i 7 years
-
Ant Party
gan Ross Montgomery, darluniau gan Sarah Warburton
3 i 7 years
-
We Can! - Make a Difference
gan Alexandra Strick, darluniau gan Steve Antony
4 i 7 years