English Cymraeg

Joyful Joyful

gan Dapo Adeola
Curated by Dapo Adeola

Oedran diddordeb: 12 i 14
Oedran darllen: 11+

Cyhoeddwr Macmillan, 2022

  • Funny
  • Poetry and rhyme
  • Short stories

Am y llyfr hwn

Mae gan y casgliad llawen hwn o straeon, cerddi a darluniadau, sy’n dathlu lleisiau pobl Dduon, apêl gyffredinol, gan ei fod yn giplun o blentyn yn byw ei fywyd, boed hynny yn ninas Llundain, tref yn Nhrinidad neu fferm yn Uganda.

Mae’r awduron a’r darlunwyr yn gymysgedd o enwau sydd wedi hen sefydlu ynghyd â rhai lleisiau newydd a chyffrous. Canlyniad hyn ydy bod yma amrywiaeth gwych o leisiau, arddulliau ac awyrgylch.

Mae hwn yn llyfr gwirioneddol hyfryd. Mae’r darluniadau i gyd yn llachar o liwgar, ac mae’n gwneud ichi deimlo’n gyffredinol gynnes. Ar y diwedd, mae’r darllenydd yn cael gwahoddiad i ysgrifennu ei stori ei hun ac mae yna gwpl o dudalennau gwag yno ar gyfer gwneud hyn.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn