Hanes fy Hynodrwydd
gan Chloe Heuch
Adapted by Mared Llwyd
Oedran diddordeb: 9 i 11
Oedran darllen: 9+
Cyhoeddwr Firefly, 2024
Am y llyfr hwn
Wrth iddi fentro i’w harddegau mae popeth ym myd Miri’n newid. Mae ysgol uwchradd yn golygu ffrindiau newydd ac athrawon newydd. Er cefnogaeth ei theulu mae Miri, sy’n awtistig, yn ffeindio’r holl newidiadau yn heriol. Mae’n ymddangos bod pethau’n gwella ar ôl iddi wneud ffrind newydd a phrofi cyfeillgarwch go iawn am y tro cyntaf. Mae hi hefyd yn darganfod ei thalent am actio. Ond mae’r cyfeillgarwch newydd ac awydd Miri i dyrchu i hanes gwallgofdy Fictoraidd lleol yn arwain at heriau nad yw hi wedi eu profi o’r blaen. Ond trwy drechu’r heriau newydd hyn daw Miri i adnabod ei hynodrwydd ei hun. Dyma lyfr llawn antur ac emosiwn sydd yn atgoffa’r darllenydd bod mwy nag un ffordd i weld a phrofi’r byd.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Gwen ac Arianrhod
gan Lleucu Gwenllian
9 i 14 years
-
Gloam
gan Jack Mackay, darluniau gan Ben Joel Price
9 i 14 years
-
Cold Turkey
gan Simon James Green, darluniau gan Tosin Akinkunmi
9 i 14 years
-
People Like Stars
gan Patrice Lawrence
9 i 14 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych Cymru 2024-25: Ar gyfer plant 10 i 11 oed
Y llyfrau gorau o 2024-25 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 10-11 oed.