Gordon the Meanest Goose on Earth
gan Alex Latimer
Oedran diddordeb: 6 i 8
Oedran darllen: 6+
Cyhoeddwr Oxford University Press, 2024
Am y llyfr hwn
Ceir digonedd o wyddau annifyr yn y byd. Mae pump ohonyn nhw’n cyfarfod bob mis yn y Meanest Goose Society. Mae un yn brathu bysedd. Mae un yn gwneud i hen wragedd gario eu neges. Ond Gordon yw’r ŵydd fwyaf annifyr ohonyn nhw i gyd.
Mae’n gweiddi ar bobl. Mae’r pwyso’r botwm croesi’r ffordd drosodd a throsodd a byth yn croesi’r ffordd. Mae hyd yn oed yn cyfeirio ymwelwyr â’r sw i’r cawell teigrod agored!
Ond pan fydd Anthony y mochyn bach yn rhoi blodyn hardd iddo, mae Gordon yn teimlo’n gythryblus. Pam mae’n teimlo fel hyn? Efallai yn hytrach na bod yn annifyr y gallai fod yn ddewr. A byddai dweud bod yn ddrwg ganddo am fod yn annifyr yn ddewr dros ben...
Mae hon yn stori ddoniol iawn. Mae lluniau athrylithgar Alex Latimer yn ychwanegu at yr hiwmor hefyd - ni fu gan ŵydd ystumiau mor wych erioed. Nac aeliau.
Cyflwynir y neges o fod yn glên yn hytrach nag annifyr gyda phwyll yn ogystal â hiwmor, felly nid yw’n siwgraidd nac yn bregethwrol. Dylai plant fod wrth eu boddau â’u pennau yn y llyfr hwn ac yn mwynhau’r lluniau lliwgar a’r ffolineb.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Croaky: Search for the Sasquatch
5 i 9 years
-
Huxley and Flapjack Race to the Rescue
5 i 9 years
-
Beastie Bros: The Cabbage Juice Crime
5 i 9 years
-
Snails of the Unexpected
5 i 9 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: ar gyfer plant 6 i 7 oed
Y llyfrau gorau o 2024–25 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 6–7 oed