English Cymraeg

Enwogion o Fri: Billy - Bywyd Pwerus Billy Boston

gan Jessica Dunrod, darluniau gan Selom Sunu

Oedran diddordeb: 6 i 8
Oedran darllen: 6+

Cyhoeddwr Llyfrau Broga, 2024

  • Non-fiction

Mae’r llyfr hwn ar gael hefyd mewn English

Am y llyfr hwn

Dyma’r llyfr diweddaraf yng nghyfres lwyddiannus ‘Enwogion o Fry’. Mae’r gyfres yn gwneud gwaith gwych o dynnu sylw at straeon bywyd pobl ddylanwadol o Gymru a fyddai fel arall, o bosib, yn mynd ar goll yn nhreigl amser. Mae hanes y chwaraewr rygbi Billy Boston yn enghraifft arbennig o hyn. Mae’r llyfr yn llwyddo i gyfleu stori bywyd Billy trwy ddefnyddio iaith addas a lluniau lliwgar, gafaelgar. Mae gwirionedd ac annhegwch yr hiliaeth a brofodd Billy yn ystod ei fywyd yn amlwg, ac eto dathliad yw’r llyfr hwn o’r ffordd roedd Billy wedi goresgyn yr heriau hyn a llwyddo i fod yn un o chwaraewyr rygbi mwyaf llwyddiannus Cymru.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn