Dig Dig Dinosaur
Athro Anjali Goswami
Oedran diddordeb: 2 i 3
Oedran darllen: 4 i 5
Cyhoeddwr Nosy Crow, 2024
Am y llyfr hwn
Mae tri o blant yn cychwyn ar daith i wlad bell. Maen nhw’n pacio’r holl declynnau angenrheidiol: trywel, morthwyl, llyfr nodiadau, pensil, map, ac i ffwrdd â nhw!
Pan fyddan nhw’n dechrau cloddio, mae’r plant yn dod o hyd i ffosilau anhygoel: Felosiraptor, Trichorn, Tyranosor a hyd yn oed Diplodocws ENFAWR! Anhygoel!
Mae’r llyfr lluniau difyr hwn yn gyflwyniad gwych i ddeinosoriaid, gan gynnwys tyllau cipolwg ac adran plygu allan fawr hyfryd ar ddiwedd y llyfr.
Ar ôl datgelu sgerbwd pob deinosor, wedi’u trefnu yn nhrefn eu maint, ceir taenfa ddwbl ddilynol yn dangos sut roedd y deinosor yn edrych (â rhywfaint o ddefnydd creadigol o liw) a rhai ffeithiau sylfaenol am bob un - er enghraifft, roedd gan y Trichorn big fel aderyn a ffril mawr o amgylch ei ben, ac roedd gan y Felosiraptor ddannedd miniog, plu gwlanog a chrafangau crynion ar ei goesau cefn.
Perffaith ar gyfer rhai ifanc sy’n frwd am ddeinosoriaid a chyflwyniad cynnar iawn i’r syniad o ffosilau ac archaeoleg.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
A First Book of Dinosaurs
4 i 9 years
-
Cyfri Defaid
3 i 7 years
-
Oh No, Flo!
3 i 4 years
-
A Home for Spark the Dragon
3 i 5 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: ar gyfer plant 4 i 5 oed
Y llyfrau gorau o 2024–25 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 4–5 oed