English Cymraeg

Destiny Ink: Birthday Secret

gan Adeola Sokunbi

Oedran diddordeb: 6 i 9
Oedran darllen: 6+

Cyhoeddwr Nosy Crow, 2025

  • Chapter books

Am y llyfr hwn

Mae Destiny wedi cynhyrfu’n lân am fynd i barti pen-blwydd ei chyfnither Lola. Maen nhw’n ffrindiau gorau ac yn gyfnitherod, ac mae Destiny wedi gwneud anrheg arbennig i Lola. Ond pan fydd Lola yn chwarae gyda’i ffrindiau eraill yn y parti, mae Destiny yn teimlo allan ohoni. Mae’n tynnu llun tedi - ac yna’n cyfarfod tedi sy’n siarad! Efallai y gallan nhw fod yn ffrindiau? 

Mae’r stori swynol hon yn wresog ac yn dyner o hudol. Bydd yn taro tant gyda darllenwyr iau am lawer o resymau. Efallai y byddan nhw’n uniaethu a theimladau Destiny o genfigen a chael ei gadael allan, ac mae sefyllfa’r parti pen-blwydd yn gyfarwydd iawn hefyd. Ceir portread cadarnhaol o deulu estynedig cariadus, ac o fod yn ystyriol - er enghraifft, cynnwys eraill yn eich gemau, hyd yn oed os nad ydych chi’n eu hadnabod nhw. Dylai’r penodau byr a’r ffont mawr, eglur, ynghyd â’r lluniau eithriadol o egnïol gan Sokunbi ei hun, apelio i ddarllenwyr newydd, gan roi hyder iddyn nhw. Hefyd, yn y cefn, ceir canllawiau cam wrth gam i dynnu llun o Destiny, Fuzzy ei bochdew a Darlene y tedi. Hyfryd.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn