Am y llyfr hwn
Mae Captain Looroll, sef rholyn toiled sydd wedi dod yn fyw, yn barod am antur. Yn anffodus, dydy hi ddim yn cael llawer o gyfleoedd yn y toiled dan y staer. Mae Ray the Spray a Barbara Bogbrush hefyd wedi diflasu.
Fodd bynnag, mae bywyd yn bywiogi pan maen nhw'n dod o hyd i ToiletTROLL yn creu llanast llwyr yn yr ystafell ymolchi fyny staer – ac yn troi'r tŷ cyfan yn wyrdd llachar gyda slwtsh!
Mae hwn yn llyfr gwych i'w ddarllen yn uchel, gyda digonedd o eiriau mwys ac eitemau ystafell ymolchi gydag enwau digrif tu hwnt yn dod yn fyw o flaen eich llygaid. Y llyfr perffaith i'w ddarllen i'r rhai bach sy'n dysgu sut i ddefnyddio'r poti efallai – neu jest llyfr gwirion a digrif i'w ddarllen unrhyw amser!
Mwy o lyfrau fel hyn
-
The Tour at School
2 i 7 years
-
Ant Party
3 i 7 years
-
Don’t Think of Tigers
4 i 7 years
-
Dafad yw Blodwen / Blodwen is a Sheep
4 i 7 years