Beth yw'r Amser, Bwci Bo? / What Time Is It, Bwci Bo?
gan Joanna Davies, darluniau gan Steven Goldstone
Oedran diddordeb: 2 i 7
Cyhoeddwr Atebol Cyfyngedig, 2026
Am y llyfr hwn
Yn y llyfr hwylog llun-a-stori hwn, mae'r Bwci Bo yn arwain y darllenydd ifanc trwy ddiwrnod prysur yn ei fywyd – bydd yn helpu dealltwriaeth plant ifanc o drefn ac amser. Mae diwrnod y Bwci Bo yn dechrau gyda chaniad gloc larwm, ac yn dilyn hwn mae’n cael amser brecwast sydd yn llawn o grempog flasus. I gadw cydbwysedd iachus, nesaf i’r Bwci Bo mai hi’n amser cadw’n heini gydag amser ymlacio i ddilyn, sydd yn cynnwys tipyn bach o ioga. Fel rhan fwyaf o ddarllenwyr ifanc y llyfr, mae’r Bwci Bo wrth ei fodd yn creu pethau, ac mae amser arbennig wedi neilltuo i goginio a pheintio.Nesaf, daw amser mwyaf pwysig y dydd, sef amser chwarae. Fel y rhan fwyaf o blant mae’r Bwci Bo yn mwynhau dringo coed a chwarae cuddio. Wedyn, daw amser am dipyn bach o actio a dawnsio, cyn bath ac amser gwely.Mae’r holl rythmau ac odlau yn gwneud hon yn stori wych i ddarllen ar goedd, ac ynghyd ar ddarluniau bachog, bydd hon yn siŵr o fod yn ffefryn gyda darllenwyr ifanc.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Sut Wyt Ti, Bwci Bo? / How Are You, Bwci Bo?
gan Joanna Davies, darluniau gan Steven Goldstone
4 i 7 years
-
Ble Wyt Ti, Bwci Bo? / Where are you, Bwci Bo?
gan Joanna Davies, darluniau gan Steven Goldstone
4 i 7 years
-
Big Bad Dragon Club
gan Beach
2 i 7 years
-
Deg Deinosor Bach / Ten Little Dinosaurs
gan Mike Brownlow, darluniau gan Simon Rickerty
2 i 9 years