English Cymraeg

Hawliau Darllen: Mae Llyfrau'n Creu Dyfodol Mwy Disglair

Am rhy hir, dydy manteision darllen i blant, manteision sy’n newid bywydau, ddim wedi cael eu cymryd o ddifrif. A nawr – wrth i’n plant wynebu dyfodol anhysbys – rydyn ni mewn peryg o golli cenhedlaeth oni bai ein bod ni’n gweithredu.” – Frank Cottrell-Boyce

Patrice Lawrence, Diana Gerald and Frank Cottrell-Boyce standing outside the Houses of Parliament holding signs which say 'All children have a right to the life-changing benefits of sharing stories.'

Patrice Lawrence, Diana Gerald, a Frank Cottrell-Boyce y tu allan i Dŷ’r Arglwyddi 

Ynglŷn â Hawliau Darllen

Pan ddechreuodd Frank Cottrell-Boyce yn ei swydd fel Bardd Plant Waterstones, roedd ganddo weledigaeth syml: y dylai darllen fod yn rhan o fagwraeth pob plentyn. Bod cael rhywun yn darllen i chi o enedigaeth ddim yn fraint anweledig, ond yn rhan gyffredinol o blentyndod. 

Mae Hawliau Darllen yn ymgyrch a arweinir gan BookTrust a Frank. Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Hawliau Darllen wedi helpu i sicrhau bod darllen ar y cyd yn cael ei drafod mewn sgyrsiau newydd ar draws polisi blynyddoedd cynnar, iechyd, addysg, diwylliant, a llywodraeth leol. Mae pobl yn dechrau dod ynghyd o amgylch syniad syml, pwerus: bod darllen yn greiddiol i fywyd cynnar plentyn, oherwydd ei fod yn creu’r sylfaen ar gyfer lles, cysylltiad a hapusrwydd. 

Mae’r syniad o Hawliau Darllen yn ffynnu, gan ysbrydoli arferion yn yr ystafell ddosbarth a strategaethau llyfrgelloedd lleol. Rydym wedi dechrau symud systemau, dylanwadu ar ganllawiau cenedlaethol, annog ymchwiliadau, a sbarduno trafodaethau. 

Ymunwch â’r mudiad Hawliau Darllen

Wrth i’r pwysau ar deuluoedd barhau i gynyddu ac wrth i wasanaethau gael eu hymestyn i’r eithaf, mae’n rhaid i ni barhau i weithio gyda’n gilydd i wneud yn siŵr bod darllen yn dal i gael sylw. Mae’n genhadaeth frys. Yn ein dwylo ni mae un o’r offer mwyaf pwerus y mae bodau dynol erioed wedi’i ddyfeisio ar gyfer adeiladu cyfarpar hapusrwydd, sef llyfrau. Rydym yn rhywogaeth o rythm, o adrodd straeon, o gysylltiad. Mae’n sylfaenol i bwy ydym ni. 

Cofrestrwch i’r mudiad Hawliau Darllen a chael y newyddion diweddaraf a chynnwys arbennig yn uniongyrchol gan Frank a BookTrust yn syth i’ch mewnflwch. Gyda’n gilydd, gadewch i ni sicrhau bod darllen yn hawl gyffredinol i bob plentyn dan 7 oed. 

Y gwahaniaeth mae eich cefnogaeth yn ei wneud

Wyddoch chi, dydy 58% o blant yn y DU ddim yn cael stori amser gwely? 

Trwy ein rhaglen Dechrau Da Babi, derbyniodd dros 500,000 o deuluoedd y llyfr cyntaf ar gyfer eu babi. 

Rydym yn cefnogi 1.4 miliwn o blant a theuluoedd bob blwyddyn. 

Rhoi: Mae eich rhoddion yn ariannu’r gwaith hanfodol rydym yn ei wneud i helpu teuluoedd i ddarllen gyda’i gilydd. Cyfrannwch i ddod â manteision darllen, manteision sy’n newid bywyd, i bob plentyn. 

Y newyddion diweddaraf

Uchafbwyntiau’r ymgyrch Hawliau Darllen

Taith ddysgu Frank

Darllenwch fwy am daith ddysgu Frank i ddarganfod mwy am sut mae darllen ar y cyd o’r blynyddoedd cynnar yn newid bywydau. 

Iechyd

Addysg

Cymuned

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn