Ofnau y gallai cefnogaeth hanfodol i ddarllen yn y blynyddoedd cynnar ar gyfer plant tlotaf Cymru ddiflannu ynghanol ansicrwydd dros wariant i’r dyfodol
16 Ionawr 2026
Mae BookTrust Cymru wedi rhybuddio y bydd miloedd o fabis a phlant bach ledled Cymru yn colli’u mynediad i gefnogaeth cyd-ddarllen cynnar hanfodol, gyda diwedd rhaglenni blaengar Dechrau Da, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i ariannu’r elusen yn uniongyrchol.
Mae BookTrust Cymru wedi rhybuddio y bydd miloedd o fabis a phlant bach ledled Cymru yn colli’u mynediad i gefnogaeth cyd-ddarllen cynnar hanfodol, gyda diwedd rhaglenni blaengar Dechrau Da, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i ariannu’r elusen yn uniongyrchol.
O 1 Ebrill 2026, bydd y cyllid sy’n cefnogi rhaglenni blynyddoedd cynnar dwyieithog BookTrust ar gyfer babis a phlant ifanc, gan gynnwys Dechrau Da a Pori Drwy Stori, yn cael ei ddargyfeirio.
Mae’r penderfyniad hwn yn golygu y bydd buddsoddiad mewn cefnogaeth sefydledig ac effeithiol cyffredinol a thargedig ar gyfer plant, drwy gydol eu 1,000 dydd cyntaf, yn cael ei ddefnyddio yn lle gan Adnodd, i gomisiynu adnoddau, yn eu nod i gefnogi dysgu ac addysgu’r Cwricwlwm i Gymru.
Yn ôl Sioned Jones, Cyfarwyddwr BookTrust Cymru: “Cymru fydd yr unig genedl yn y Deyrnas Unedig fydd ddim yn cynnig rhaglen Dechrau Da Babi i unrhyw blentyn newydd-anedig yn sgil hyn. Mae ymchwil yn dangos fod cael teuluoedd i gyd-ddarllen o’r cyfnod cynharaf posib yn dod â manteision unigryw, ar unwaith ac yn yr hirdymor, yn eu sgil.”
Mae dod â rhaglenni cyd-ddarllen gwerthfawr sy’n creu argraff, heb gynllun pontio clir a ymgynghorwyd, yn bygwth rhoi babis a phlant dan anfantais am flynyddoedd i ddod.
Sioned Jones, Cyfarwyddwr BookTrust Cymru
Y gwahaniaeth y mae’r rhaglenni hyn yn ei wneud
Mae BookTrust Cymru wedi gweithio yng Nghymru ers dros 25 mlynedd gan ddarparu rhaglenni cyd-ddarllen dwyieithog sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn, ar gyfer babis a phlant wrth iddyn nhw dyfu o’u genedigaeth hyd at bum mlwydd oed.
Bob blwyddyn, bydd dros 60,000 o deuluoedd, gyda thros deiran ohonynt yn byw mewn tlodi, yn derbyn cefnogaeth wedi’i deilwra drwy gydol blynyddoedd cynnar y plant, oddi wrth un o raglenni dwyieithog Dechrau Da BookTrust Cymru.
I lawer o deuluoedd, mae’r rhaglenni’n darparu llyfrau cyntaf erioed plentyn – ac mae ein Hadroddiad Effaith yn dangos bod 84% o deuluoedd incwm isel yn darllen mwy ar ôl derbyn cefnogaeth gan BookTrust Cymru.
Canfu ymchwil yr elusen fod 72% o rieni a gofalwyr yn dweud fod Dechrau Da Babi wedi peri iddyn nhw deimlo’n fwy hyderus ynghylch darllen gyda’u plant, a dywedodd 60% ei fod wedi’u sbarduno i ddarllen / rhannu straeon yn Gymraeg yn amlach gyda’u plentyn nag y bydden nhw fel arall.
Mae rhaglenni Dechrau Da, sy’n cael eu haddysgu gan dystiolaeth a’u cyd-gynllunio gyda phartneriaid a theuluoedd, yn darparu llyfrau perthnasol i ysbrydoli, ac adnoddau darllen, ynghyd ag arweiniad a chefnogaeth i ofalwyr.
Cânt eu darparu mewn partneriaeth â thimau rheng flaen o feysydd addysg, llyfrgelloedd, awdurdodau lleol a gofal plant ac yn cefnogi amrywiaeth o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y rhaglen 1000 Diwrnod Cyntaf, Plentyn Iach Cymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), Cymraeg 2050, Cwricwlwm i Gymru a Chymru Gwrth-hiliol.
Mae BookTrust Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r asesiadau hawliau plant ac argraff a arweiniodd at ei benderfyniad i ddod a Dechrau Da i ben yng Nghymru, a darparu eglurder ar sut y gellir sicrhau parhad i gefnogaeth ar gyfer cyd-ddarllen yn y blynyddoedd cynnar y tu hwnt i fis Ebrill 2026.
“Torcalonnus”
Dywedodd Nicola Davies, Laureate Plant Cymru ar gyfer 2025–2027: “Rydw i wedi fy syfrdanu i glywed fod Llywodraeth Cymru’n torri cyllid i raglen hir-sefydledig sydd wedi galluogi i’r plant tlotaf yng Nghymru ddechrau ar eu taith ddarllen ers blynyddoedd.
“Mae BookTrust Cymru’n darparu cefnogaeth arbenigol, wedi’i dargedu, yn Gymraeg a Saesneg, er mwyn rhoi’r deunyddiau a’r sgiliau i rieni a gofalwyr er mwyn eu galluogi i ddarllen i fabis a phlant bach. Mae’r profiad cynnar hwn o lyfrau’n sail i lwyddiant addysgol yn ddiweddarach, ac mae’n gonglfaen i symudedd cymdeithasol.
Mae’r syniad y gellir atgynhyrchu rhaglenni profedig yr elusen, a’r ffordd y maen nhw’n cael eu darparu drwy rwydwaith aeddfed o dimau ar y rheng flaen, dros nos, yn ffôl. Peth torcalonnus yw ystyried y bydd effeithiau’r penderfyniad hwn yn cael eu teimlo waethaf gan blant mwyaf bregus Cymru.
Nicola Davies, Laureate Plant Cymru
Meddai Delyth Huws, y cydlynydd Dechrau Da a wreiddiwyd yn yr awdurdod lleol yng Ngheredigion: “Dwi wedi gweld â’m llygaid fy hunan sut y mae’r rhaglenni’n rhoi hyder i deuluoedd ddarllen gyda’u plant, gan droi straeon yn enydau o chwilfrydedd a llawenydd yn hytrach na rhywbeth y mae’n rhaid ei wneud.
“Mae’n agor y drws i rieni a all fod yn teimlo’n ansicr am ddarllen, gan ddangos mai’r pwynt yw bod yn chwareus a chreu cysylltiadau, nid dilyn y naratif air am air. Mae’r effaith yn glir.”
Aeth Sioned Jones ymlaen i ddweud: “Mae ein dull a arweinir gan newid ymddygiad yn cefnogi teuluoedd i ddarllen mwy gyda’u plant drwy gydol y blynyddoedd cynnar a thu hwnt. Mae’r rheiny yr ydym ni’n eu cefnogi’n dweud wrthym fod ein rhaglenni’n gwneud
Byddai dod â Dechrau Da i ben yng Nghymru, heb ddim cynlluniau clir o ran sut y cyflawnir ei ddarpariaeth hanfodol wedyn, yn effeithio ar y teuluoedd tlotaf yn gyntaf, ac yn fwyaf.