English Cymraeg

Adroddiad Effaith 2024/25

Archwiliwch ein hadroddiad effaith diweddaraf a darganfod sut rydyn ni’n gweithio ym mhob cymuned yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i annog teuluoedd i ddarllen.

Sesiwn Dechrau Da i Blant Bach a Dechrau Da Oed Cyn Ysgol 

Ein cenhadaeth

Mae ein gwaith wedi’i wreiddio yn y gred bod pob plentyn, yn enwedig y rhai o gefndiroedd incwm isel neu deuluoedd sy’n agored i niwed, yn haeddu’r cyfle i fwynhau darllen a’r holl fanteision gydol oes sydd ynghlwm wrtho. Mae darllen yn rhywbeth i bob plentyn. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant a theuluoedd sydd angen ein cymorth fwyaf ac a fydd yn cael y budd mwyaf. Gall darllen helpu plant i oresgyn anghydraddoldebau cyn iddynt ddyfnhau, gan roi’r dechrau cryfaf mewn bywyd iddynt. Dyna pam rydyn ni’n dylunio’r cymorth rydyn ni’n ei roi ac yn adeiladu ein rhwydweithiau o amgylch y teuluoedd hyn. 

Mae ein gwaith wedi’i blethu’n ddwfn yn y system gymorth ehangach i blant a theuluoedd, gan sicrhau bod ein partneriaid yn gallu cynnwys cymorth darllen yn eu gwasanaethau. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n ymateb i anghenion lleol ac yn cyrraedd teuluoedd lle bynnag y maent, yn enwedig mewn cymunedau lle gall y cymorth a roddir gennym wneud y gwahaniaeth mwyaf. 

Rydyn ni’n cefnogi 1.4 miliwn o blant a theuluoedd bob blwyddyn 
 

Rydyn ni’n gweithio gyda dros 19,200 o leoliadau ar draws y sectorau addysg, llyfrgelloedd, iechyd, gofal cymdeithasol plant a chymorth cynnar 

Mae gennym rwydwaith o dros 34,000 o bartneriaid sy’n darparu ein rhaglenni 

Mae deall effaith ein hymyriadau yn ganolog i waith BookTrust. Mae ein gweithgareddau monitro, gwerthuso a dysgu yn ein galluogi i ddeall ein cyrhaeddiad a’r effaith rydyn ni’n ei chael yn glir, fel y gallwn ni fod yn hyderus bod y gwaith rydyn ni’n ei wneud gyda phlant a theuluoedd yn cael yr effaith fwyaf bosibl.

Ruthann Hughes, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Effaith yn BookTrust

Canfyddiadau allweddol

Yn 2024/25 aethom ati i: 

Ymwreiddio darllen ym mlynyddoedd cynnar plant mewn teuluoedd ar incwm isel 

Fe gyrhaeddon ni dros hanner miliwn o deuluoedd gyda Dechrau Da Babi: dywed 78% fod y pecyn wedi eu hysgogi i ddarllen neu rannu llyfrau a straeon mwy gyda’u babi

Fe gyrhaeddon ni 417,400 o blant 1 i 4 oed gyda Dechrau Da i Blant Bach a Dechrau Da Oed Cyn ysgol: dysgodd 76% o deuluoedd rywbeth newydd am y gwahanol ffyrdd y gallant ddarllen a rhannu straeon gyda’u plentyn 

Fe gymerodd 2,600 o lyfrgelloedd a thua 60,000 o blant 5 oed ac iau ran yn Amser Stori BookTrust. Mae 70% o’n partneriaid o’r farn bod Amser Stori yn effeithiol wrth helpu teuluoedd sydd heb ddefnyddio’r llyfrgell o’r blaen, neu na fyddent fel arfer yn ei defnyddio, i gael profiad cadarnhaol 

Yng Nghymru, fe wnaeth 49,600 o blant oedran meithrin a derbyn gymryd rhan yn Pori Drwy Stori. Fe wnaethon ni ddosbarthu 30,100 o adnoddau Blynyddoedd Cynnar Dechrau Da 

Dod â mwynhad a sefydlogrwydd i blant sydd wedi’u mabwysiadu, sy’n cael gofal maeth neu y mae’r teulu yn gofalu amdanynt, trwy ddarllen a rhannu straeon 

Fe wnaethon ni gyrraedd 10,500 o blant mewn gofal maeth neu o deuluoedd ar incwm isel gyda’n Clwb Blwch Llythyrau: dywed 73% o blant eu bod yn darllen mwy ar ôl derbyn adnoddau’r Clwb Blwch Llythyrau 

Fe wnaethon ni rannu llyfrau a darparu gwybodaeth a chefnogaeth i dros 1,000 o ofalwyr sy’n berthnasau 

Fe wnaethon ni lansio rhaglen beilot newydd, Story Explorers, gan ddarparu dros 700 o danysgrifiadau i deuluoedd mabwysiadol, teuluoedd maeth a theuluoedd sy’n gofalu am berthynas. 

Cefnogi ysgolion i feithrin cariad at ddarllen

Fe gyrhaeddon ni 47,800 o blant gydag ymweliadau awduron rhithwir BookTrust Represents 

Fe wnaethon ni lansio Bookspark, rhaglen newydd sy’n cynnwys llyfrau ac adnoddau i helpu ysgolion i ddatblygu profiadau darllen cymdeithasol trwy sesiynau darllen ar y cyd 

Fe gymerodd 242,700 o blant Blwyddyn 7 a Blwyddyn 8 ran yn Bookbuzz: mae 98% o athrawon a llyfrgellwyr yn cytuno bod Bookbuzz yn eu helpu i annog darllen er mwynhad yn eu hysgol 

Lawrlwytho’r adroddiad llawn 

Yn yr adroddiad, fe welwch chi: 

  • Ein model effaith sy’n esbonio ein hymagwedd system gyfan tuag at newid 
  • Yr ymchwil y tu ôl i’n rhaglenni sy’n seiliedig ar dystiolaeth 
  • Canfyddiadau allweddol a nodwyd wrth werthuso ein rhaglenni 
  • Straeon gan bartneriaid a theuluoedd rydyn ni’n gweithio gyda nhw 

Archwiliwch fwy o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud

Darllenwch y gwerthusiadau diweddaraf o’n rhaglenni

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn