English Cymraeg

Gallai rhoi llyfr yn anrheg fod yn ddechrau ar bopeth y Nadolig hwn

Rydym yn dosbarthu 18,000 o becynnau llyfrau y Nadolig hwn i’r plant sydd eu hangen fwyaf. Ond mae angen eich help arnom.

Cyfrannwch nawr

Fideo yn Saesneg yn unig. 

Mae darllen yn newid popeth. Rhowch rodd heddiw.

Adeg y Nadolig, pan fo arian yn brin, y plant nad ydynt yn cael llawer o anrhegion — neu’r rhai nad yw eu teuluoedd yn gallu fforddio dathlu — sy’n aml yn colli allan fwyaf ar hud darllen.

Dyna pam mae BookTrust, bob Nadolig, yn dosbarthu miloedd o becynnau llyfrau Nadoligaidd annisgwyl i blant agored i niwed a phlant mewn gofal. Nid yw rhai ohonynt erioed wedi cael llyfr eu hunain o’r blaen, felly gallwch ddychmygu’r gwenau ar eu hwynebau.

Mae straeon yn llywio sut mae plant yn deall eu hunain a’r byd o’u cwmpas. Nid rhoi llyfrau yn nwylo plant yn unig y mae eich rhodd yn ei wneud — mae’n agor drysau at ddychymyg, hyder a phosibiliadau.

Y gwahaniaeth rydych yn ei wneud

Rydym yn gwybod bod darllen yn newid popeth. Dyna pam rydym yn dosbarthu 18,000 o becynnau llyfrau Nadoligaidd i’r plant sydd eu hangen fwyaf y Nadolig hwn.

Bydd eich rhodd yn helpu i ariannu ein gwaith adeg y Nadolig a thrwy gydol y flwyddyn, a chaiff ei defnyddio lle bynnag y mae’r angen fwyaf.

Rhowch lyfrau i blentyn eu cadw’n rhai eu hunain

Rhowch rodd i’n hapêl Nadolig a helpwch i agor byd o bosibiliadau i’r plant sydd ei angen fwyaf.

Cyfrannwch nawr

Diolch yn fawr iawn i Native Strangers am greu’r ffilm hon i ni am ddim.

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn