Apêl Nadolig BookTrust: ‘Dydyn ni ddim yn treulio cymaint o amser o flaen sgrin bellach. Nawr, mae llyfrau’n dod â ni at ein gilydd’
I deuluoedd yng Nghaer, mae rhannu llyfrau yn dod yn rhan o fywyd bob dydd, gan ddod â nhw’n agosach at ei gilydd a helpu plant i ddatblygu, diolch i BookTrust. Gall eich cefnogaeth helpu mwy o deuluoedd i brofi’r gwahaniaeth y gall llyfrau a straeon ei wneud.
[Fideo yn Saesneg yn unig]
Yma yn BookTrust, rydyn ni’n gwybod pa mor drawsnewidiol y gall plentyndod gyda llyfrau fod. Gall darllen ar y cyd fel teulu newid bywyd plentyn er gwell. A gall cael eu llyfrau eu hunain gartref fod yn ddechrau popeth.
Mae Ashley a Natalie yn rhieni i ddwy ferch, ac mae eu merch ieuengaf yn mynychu sesiynau Let’s Play yn Blacon Family Hub yng Nghaer. Maen nhw wedi gweld newid mawr yn eu bywyd teuluol ers iddyn nhw ddechrau rhannu’n rheolaidd gyda’i gilydd y llyfrau sydd wedi cael eu rhoi iddyn nhw.
“Doedd ein ieuengaf ddim wir yn gofyn unrhyw gwestiynau nac yn ymgysylltu fel teulu,” meddai Ashley. “Byddai hi’n eistedd i lawr ac yn gwylio’r teledu. Nawr, gyda’r llyfrau, mae’n dod â’r teulu at ei gilydd. Dydyn ni ddim yn treulio cymaint o amser o flaen sgrin ag yr oedden ni.”
Yn y cyfamser, cafodd Jolanta lyfr dwyieithog gan BookTrust gan Claire yn Blacon (yn Saesneg ac yn Lithwaneg, ei hiaith gyntaf). Nawr, mae hi a’i phlant yn rhannu’r llyfr gyda’i rhieni dros y ffôn.
Dywed Jolanta ei fod yn helpu ei phlant i ddysgu siarad yr un iaith â’u neiniau a’u teidiau, fel y gallan nhw gyfathrebu a chadw mewn cysylltiad drwy fwynhau’r stori gyda’i gilydd.
“Nawr rydyn ni’n defnyddio’r llyfr ar gyfer amser stori bob nos,” meddai Jolanta. “Rydyn ni’n cyffroi’n arw. Mae’n amser i ni fondio fel teulu. Mae’n achubiaeth.”
Teulu yn mwynhau eu llyfr newydd gyda’i gilydd
Y tu ôl i straeon fel hon mae rhwydwaith o bartneriaid lleol dibynadwy sy’n helpu BookTrust i gyrraedd teuluoedd.
Mae Frances Lennon yn gweithio i Gyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer ac yn cydlynu rhaglenni BookTrust yn yr ardal leol. Mae hi’n un o’r bobl angerddol sy’n gweithio yn ei gwasanaeth llyfrgell lleol ac yn sicrhau bod y llyfrau a’r cymorth darllen rydyn ni’n eu darparu yn cyrraedd y teuluoedd sydd eu hangen fwyaf yn eu hardal.
“Mae plentyndod sy’n llawn straeon yn un sy’n llawn dychymyg a phosibiliadau di-ben-draw,” meddai Frances. “Mae pob llyfr rydych chi’n ei agor yn ymwneud â rhywbeth gwahanol. Gallwch chi fod yn unrhyw beth, gallwch chi brofi unrhyw beth. Ond gall plentyndod heb straeon fod yn unig iawn.”
Rhaglen BookTrust yn cael ei rhannu gyda phlentyn yng Nghanolfan Blant Blacon
Mae Frances yn gweithio gyda phartneriaid yn ei chymuned, fel Blacon Family Hub yng Nghaer, i ddarparu rhaglenni darllen BookTrust i fabanod a phlant bach.
Mae hyn yn golygu bod teuluoedd yn yr ardal sy’n llai tebygol o fod â’r arian, yr amser neu’r hyder i rannu llyfrau gartref yn derbyn llyfrau o ansawdd uchel sy’n addas i’w hoedran a chymorth darllen gan BookTrust drwy wasanaethau a lleoliadau lleol dibynadwy.
Mae Blacon Family Hub hefyd yn cynnal sesiynau rhyngweithiol ‘Let’s Play’ neu ‘Ready, Steady, Read’, lle mae oedolion yn cael eu gwahodd i weld sut y gall rhannu straeon gyda’u plant fod yn ffordd syml a hwyliog o feithrin perthynas â’u plentyn a chefnogi ei ddatblygiad.
Mae Sarah Holding, Rheolwr meithrinfa S4YC yn Blacon Family Hub, yn gefnogwr brwd o wneud straeon yn rhan greiddiol o blentyndod. “Mae mor bwysig bod plant yn cael eu hamlygu i iaith, straeon a llyfrau,” meddai. “Maen nhw’n datblygu eu sgiliau gwrando a chyfathrebu, ac mae hynny’n eu helpu i baratoi ar gyfer yr ysgol.”
Plentyn yn mwynhau ei llyfr newydd gyda’i mam
Mae Claire Ross, Gweithiwr Blynyddoedd Cynnar yn Blacon Family Hub, yn defnyddio rhaglenni BookTrust yn ei gwaith gyda theuluoedd.
“Mae llawer o deuluoedd yn dod yma sydd heb lyfrau gartref,” meddai. “Gallaf siarad â nhw trwy’r dydd am rannu llyfrau, ond mae rhoi llyfr iddyn nhw i’w gadw wir yn pwysleisio pa mor bwysig ydyw.
“Gallwn fynd allan i ymweld â theuluoedd gartref gyda phecyn BookTrust. Byddaf yn dangos sut i swatio dan flanced ar y soffa gyda’r teulu cyfan yn cymryd rhan, er mwyn dangos sut y gallan nhw rannu straeon gyda’i gilydd. Wedyn, gallaf gamu’n ôl a gadael pecyn BookTrust gyda nhw, fel y gallan nhw barhau â’r cariad hwnnw at straeon gartref.”
Mae yna deuluoedd sydd wedi mynd o beidio â darllen o gwbl i wneud hynny bob dydd. Gallwch chi wir weld gwahaniaeth pan fydd llyfrau’n cael eu rhannu gartref.
Claire Ross, Gweithiwr Blynyddoedd Cynnar yng Nghanolfan Blant Blacon
Mae eich rhoddion yn golygu y gall mwy o deuluoedd ledled Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon dderbyn llyfrau sydd wedi’u dewis yn arbenigol a chymorth dibynadwy yn ystod blynyddoedd cynharaf eu plentyn. Gyda’ch help chi, gall mwy o deuluoedd wneud rhannu llyfrau a straeon yn rhan o fywyd bob dydd, gan helpu plant i feithrin iaith, ymdeimlad o berthyn a chysylltiad o’r cychwyn cyntaf.
Rhowch lyfrau eu hunain i blentyn
Rhowch rodd i’n hapêl Nadolig a helpwch i agor byd o bosibiliadau i’r plant sydd ei angen fwyaf.
Rhowch rodd nawr