Gweminar: Dechrau'n Gryf - Amodau Galluogi Darllen yn y Blynyddoedd Cynnar
Gwyliwch y sesiwn am ddim i’ch ysbrydoli i archwilio sut y gellir cefnogi teuluoedd i wneud darllen yn rhan hapus, bob dydd, o fywyd y cartref. Addas ar gyfer partneriaid dosbarthu Dechrau Da, ac i bobl sy’n gweithio yn y sector Blynyddoedd Cynnar.
Yn y weminar hon byddwch yn:
- Darganfod sut y gellir cefnogi teuluoedd i wneud darllen yn rhan hapus, bob dydd, o fywyd y cartref.
- Dysgu am y pum amod galluogi allweddol ar gyfer cefnogi darllen yn y blynyddoedd cynnar, o arferion sefydlog a gallu cael gafael ar lyfrau, i fagu hyder oedolion a chreu diwylliannau darllen cadarnhaol.
- Clywed am esiamplau ymarferol o ymarfer partneriaeth.
Addas ar gyfer: Ein holl bartneriaid dosbarthu Dechrau Da, ac ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y sector Blynyddoedd Cynnar.
Darllen blynyddoedd cynnar mewn ymarfer: mewnwelediadau gan bartneriaid dosbarthu BookTrust
Cwrdd â’r siaradwyr
Llyfrgellydd Cymunedol i Blant a Phobl Ifanc
Mae Laura Mouland yn Llyfrgellydd Cymunedol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc sy’n gweithio i Wasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Norfolk. Mae hi’n rhan o Dîm Plant a Phobl Ifanc bach sy’n datblygu ac yn cefnogi gwaith ar gyfer plant ym mhob un o’r 47 o lyfrgell yn y sir. Mae ei rhaglenni gweithgareddau allweddol yn cynnwys cydlynu Sialens Ddarllen yr Haf, llyfrgelloedd dros dro Feed and Read a sesiynau amser stori BookTrust. Mae Laura yn frwd dros raglenni allgymorth sydd â’r nod o fynd i’r afael ag anghydraddoldeb mewn llythrennedd, gan gynnwys gweithio gyda theuluoedd sy’n byw mewn lloches a gydag ysgolion/meithrinfeydd mewn ardaloedd o amddifadedd uchel.
Gwirfoddolwr Arweiniol Let’s Talk Reading
Clair Pyper yw’r Prif Wirfoddolwr ar gyfer Let’s Talk Reading, elusen fach yn Ipswich sy’n annog rhieni a phlant i fwynhau darllen gyda’i gilydd. Sefydlwyd Let’s Talk Reading 10 mlynedd yn ôl, ac mae wedi tyfu i gynnig grwpiau synhwyraidd i rieni a babanod, sesiynau amser stori mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ac ysgolion, llyfrau yn anrhegion i blant cyn oedran ysgol a rhai plant oedran ysgol, yn ogystal â chymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol i hyrwyddo darllen. Rydym hefyd yn cynnal cynllun llythrennedd oedolion. Yn 2025 cawsom Wobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol.
Prif Arbenigwr Ymchwil BookTrust
Dr Ly Chu yw Prif Arbenigwr Ymchwil BookTrust. Mae ei gwaith yn cynnwys arwain Arolwg Teulu Cenedlaethol BookTrust a chefnogi tystiolaeth a gwerthuso ar draws y sefydliad.
Pennaeth Datblygu Partneriaethau yn BookTrust
Mae Lisa wedi gweithio yn nhîm Partneriaethau BookTrust am chwe blynedd, gan gefnogi ac arwain ein cyflawni rhanbarthol ym maes Blynyddoedd Cynnar ar raddfa fwy ac yn ddiweddar mae hi wedi dechrau mewn rôl genedlaethol newydd fel Pennaeth Datblygu Partneriaethau.
Cyn gweithio yn BookTrust, treuliodd Lisa saith mlynedd fel cynrychiolydd llywodraeth leol etholedig, a gweithiodd ar draws y mudiad Undebau Llafur yn y DU ac yn rhyngwladol.
-
Croeso i Wythnos Rhannu Stori 2026, dathliad blynyddol BookTrust o’n partneriaid dosbarthu anhygoel fel chi, sy’n defnyddio adnoddau Dechrau Da i helpu plant a theuluoedd i ddarganfod llawenydd straeon.