Cylchgrawn Her yr Ungorn

Darganfyddwch adnoddau a fideos ar gyfer gweithgaredd Her yr Uncorn, rhan o raglen Pori Drwy Stori Derbyn yn nhymor yr haf.

Mae’r cylchgrawn hwn o weithgareddau difyr wedi’i addasu eleni i’w roi i blant wrth iddyn nhw symud o’r flwyddyn Dderbyn i Flwyddyn 1.

Mae yna gysylltiad rhwng y gweithgareddau a deilliannau’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd ac mae’n annog y plant i ymarfer sgiliau gartref trwy chwarae gemau â rhiant neu ofalwr. Er mwyn creu cyffro ymhlith y plant ynglŷn â derbyn cylchgrawn, gall athrawon Blwyddyn 1 chwarae rhai o’r gemau yn y dosbarth yn gyntaf.

Fideos Her yr Ungorn

Rhestr chwarae o fideos i helpu plant i gael hwyl gyda’u cylchgrawn Her yr Uncorn.

Adnoddau i’w lawrlwytho