Her Rigymu

Croeso i’r Her Rigymu, sef rhan o raglen Pori Drwy Stori BookTrust Cymru.

Beth am ymuno â ni ar siwrnai drwy rigymau a chaneuon! Rydyn ni wedi dewis 10 o rigymau difyr ac amrywiol Cymraeg a Saesneg ichi eu mwynhau â’ch dosbarth Derbyn. Gallwch chi ddewis y rhigymau sydd fwyaf addas i’ch dosbarth, dangos eich cynnydd ar y poster Siwrnai Rigymu, gwylio ein fideos cyffrous ar-lein a gwobrwyo’ch dosbarth â’u tystysgrifau Her Rigymu.

Mae’r Her Rigymu wedi’i chynllunio i’w defnyddio yn yr ysgol ac yn y cartref, ac i fachu diddordeb rhieni a gofalwyr.

Gwylio neu wrando ar y rhigymau

Gallwch chi wylio neu wrando ar rigymau wythnosol yr Her Rigymu yma.

Adnoddau i’w lawrlwytho