Grym llyfrau stori a llun ac amser stori ar gyfer datblygu iaith plant
Dyma’r awdur a’r Therapydd Iaith a Lleferydd Lucy Rowland i ddisgrifio pam fod darllen gyda phlant mor bwysig i’w helpu i ddysgu iaith.
Mae lleoliadau Blynyddoedd Cynnar ac ysgolion yn codi pryderon am y niferoedd uchel o blant ag anghenion iaith a lleferydd a chyfathrebu.
Gwn fod gweithwyr proffesiynol fel athrawon, llyfrgellwyr a Therapyddion Iaith a Lleferydd yn gweithio’n galed i annog cariad at lyfrau, ac i rannu’r neges fod rhannu straeon yn ffordd wych o gefnogi datblygiad iaith.
Fel awdur plant a Therapydd Iaith a Lleferydd, dwi wastad wedi cael fy nenu at bwysigrwydd rhannu straeon – a nawr mae amser stori gyda fy nau fab innau’n un o fy hoff rannau o’n diwrnod. Nid dim ond am ei bod hi’n ennyd glyd, ddigynnwrf cyn amser gwely, ond am fy mod i’n gallu gweld a chlywed drosof fy hunan yr effaith mae darllen yn ei gael ar eu datblygiad ieithyddol.
A pham fod straeon mor bwysig? Drwy gyfrwng straeon rydyn ni’n rhannu gwybodaeth. Rydyn ni’n cynyddu ein dealltwriaeth o’n byd, ohonom ni ein hunain ac eraill. Gallwn ddatblygu ein creadigrwydd a’n dychymyg. Rydyn ni’n dysgu geirfa newydd, gramadeg newydd, a ffyrdd newydd o roi brawddegau at ei gilydd.
Gallwn ymarfer sgiliau iaith mwy cymhleth hefyd, gan gynnwys rhagweld a dod i gasgliad. Rydyn ni’n datblygu ein dealltwriaeth o eiriau holi gwahanol – Pwy? Beth? Ble? Pryd? Pam? – wrth i ni siarad am y stori a’r cymeriadau sydd ynddi, ac wrth gwrs, gallwn ddysgu empathi. A dweud y gwir, mae CYMAINT o ymchwil ar gael sy’n dangos effeithiau cadarnhaol darllen i blant.
Ond pam fod llyfrau stori a llun yn benodol yn cefnogi datblygiad ieithyddol ein plant cystal? Lluniwyd llyfrau stori a llun i’w darllen ar lafar, ac mae plant yn dysgu geiriau orau pan:
- Maen nhw’n eu clywed nhw’n aml. Ailadrodd yw’r allwedd wrth ddysgu iaith a bydd llyfrau stori a llun yn defnyddio byrdwn a ailadroddir yn aml er mwyn i blant allu clywed yr un ymadrodd neu frawddeg sawl tro (“We’re going on a Bear Hunt. We’re going to catch a big one…”) Sawl un ohonom sydd wedi dod i ddiwedd llyfr stori a llun a chlywed plentyn yn gweiddi ‘ETO!’ gan ein cymell i droi’n ôl at y dechrau ar unwaith eto. Gofynnir am hoff lyfrau stori a llun drosodd a throsodd a throsodd, felly bydd plant yn clywed y geiriau ynddyn nhw YN AML IAWN!
- Mae oedolion yn ymateb iddyn nhw. Drwy fod ar lefel y plentyn a rhannu sylw drwy edrych ar yr un llyfr, mae oedolion mewn safle gwych i ymateb i’r hyn mae’r plentyn yn pwyntio ato, yn edrych arno, neu’n dweud. Does dim rhaid i chi ddarllen y llyfr air am air. Mae’n hwyl mynd oddi ar y llwybr ryw gymaint a dilyn diddordebau’r plentyn hefyd.
- Mae geiriau’n ymwneud â rhywbeth y gallan nhw ei weld, ei glywed neu’i brofi. Wrth gwrs, mae llyfrau stori a llun yn llawn o ddarluniau hardd a bydd y rhain yn cefnogi dealltwriaeth plant o’r geiriau a glywant. Bydd rhai llyfrau nodwedd hefyd yn cynnwys botymau sain ac elfennau ‘cyffwrdd a theimlo’ i gefnogi dysgu geirfa a chysyniad hyd yn oed ymhellach. Pa ffordd well o ddeall ‘gludiog’ na thrwy gyffwrdd ag ychydig o ‘fwd gludiog’? (Diolch Peppa!)
- Mae sachau stori’n ffordd wych o archwilio llyfrau stori a llun; mae plant yn dwlu ar y teganau a’r propiau, a gall y rhan helpu dod â stori’n fyw a gwella dealltwriaeth y plentyn o’r iaith. A pheidiwch ag anghofio, os nad oes gennych chi deganau neu bropiau, mae defnyddio symudiad neu ystum yn ffordd wych o atgyfnerthu geiriau newydd yn weledol hefyd!
- Mae ystyr yn glir. Mae darllen ar lafar yn rhoi cynifer o gyfleoedd i berfformio straeon. Gallwn sibrwd y gair ‘sibrwd’; siarad mewn llais yn llawn ofn neu lais dig. Gallwn ddal ein hanadl, llyncu ein poer, chwerthin – ac actio ystyron y geiriau hyn go iawn i blant. Felly rhowch rwydd hynt i’ch actor mewnol ac ymrowch i wneud y lleisiau yna!
Wedi’r cyfan, bydd plant yn dysgu iaith orau pan fyddan nhw’n CAEL HWYL – ac mae llyfrau stori a llun yn bendant yn wych yn hynny o beth!
Barn BookTrust: sut rydyn ni’n cefnogi iaith a lleferydd
Seilir rhaglenni Blynyddoedd Cynnar BookTrust ar ddadansoddiad dwfn o gorff eang o ymchwil a gwerthuso, gan gynnwys o fentrau blynyddoedd cynnar a newid ymddygiad eraill, a gwaith cyd-greu, profi a pheilota eang. Mae ein rhaglenni’n sbarduno siarad, chwarae a chanu, sydd, o’i brofi ar y cyd â rhiant neu ofalwr neu ddarllenwr arall sy’n cael ei ymddiried, yn darparu swyddogaeth niwrolegol bwysig.
Mae’r gweithgareddau hyn yn gwella twf gwybyddol, corfforol, cymdeithasol ac emosiynol plant, gan ddeffro sgiliau iaith, talu sylw a chofio. Maen nhw’n hwyluso sgiliau iaith lafar plant a dysgu geiriau drwy’u gwneud yn agored i eirfa newydd a chyfoethog mewn cyd-destunau ystyrlon.
Mae’r canfyddiadau o’n gwerthusiad diweddaraf am raglenni Blynyddoedd Cynnar BookTrust (ein rhaglen Dechrau Da Plant Lleiaf a Chyn Ysgol) yn dangos yr effaith y mae’r rhaglenni hyn yn eu cael ar iaith a lleferydd cynnar plant. O ganlyniad i gymryd rhan yn y rhaglen, dywedodd rhieni a gofalwyr plant 0–4 oed fod eu plant wedi:
- Dysgu geiriau newydd (68%)
- Talu mwy o sylw pan fydd rhywun yn darllen iddyn nhw (63%)
- Siarad neu ymwneud mwy pan fydd rhywun yn darllen iddyn nhw (58%)
Fe welwch chi blant yn dod i’r Meithrin yn ddwy flwydd oed gyda bach iawn o iaith. Mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth i ddod â’u rhieni i mewn, mynd drwy becynnau BookTrust gyda’n gilydd a’u cael nhw i gymryd rhan mewn sesiwn stori… mae’r sesiynau hyn… yn gwneud gwahaniaeth mawr, mawr i ddatblygiad ieithyddol y plant yna.
Partner darparu Blynyddoedd Cynnar BookTrust