Popeth sy’n ymwneud ag adnodd Fy Llyfr yn rhaglen Pori Drwy Stori Derbyn yn nhymor yr haf.

Croeso i’ch deunyddiau gwneud llyfr oddi wrth Pori Drwy Stori. Bydd pob plentyn yn eich dosbarth Derbyn yn derbyn copi o adnoddau Fy Llyfr a gynlluniwyd er mwyn datblygu sgiliau disgyblion mewn gwneud marciau ac ysgrifennu, ac er mwyn gwneud i’ch dosbarth deimlo fel awduron go iawn.

Bydd yr adnodd unigryw hwn yn helpu eich dosbarth i archwilio’r broses o greu eu llyfr eu hunain, gan ddarparu offeryn ysgogol a fydd yn eu caniatâu i ysgrifennu’n annibynnol ac ar y cyd mewn ymateb i amrywiaeth o sbardunau, ar bynciau sydd o ddiddordeb iddynt, ac sy’n bwysig iddynt. Byddem ni’n awgrymu defnyddio’r rhain gyda’ch dosbarth yn ystod tymor yr haf.

Downloadable resources