Mae adrodd rhigymau gyda’ch gilydd a chanu caneuon syml yn ffyrdd gwych o gael hwyl gyda’ch plentyn.
Mae rhigymau’n helpu plant i ddeall sut mae iaith yn gweithio. Maen nhw’n helpu plant i ddysgu gwahanol synau iaith, teimlo’i rhythm a chael hwyl gyda geiriau. Bydd y pethau hynny’n helpu’n fawr iawn i gael eich plentyn i ddarllen, siarad ac ysgrifennu.