Sut mae darllen ar y cyd yn cefnogi gweithredu goruchwyliol a hunanreoleiddio yn y blynyddoedd cynnar
Darganfyddwch sut y gall darllen ar y cyd helpu i ddatblygu sgiliau bywyd allweddol yn ein canllaw sydd wedi’i hysbysu gan dystiolaeth ac yn cynnwys yr hyn yr ydym wedi’i ddysgu yn ddiweddar, cyngor ymarferol ac enghraifft astudiaeth achos gan y London Early Years Foundation (LEYF).
Beth yw gweithredu goruchwyliol a hunanreoleiddio?
Cyfres o wahanol alluoedd sy’n cefnogi meddwl ac ymddygiad pwrpasol plant wedi’u cyfeirio at nodau yw gweithredu goruchwyliol, gan gynnwys rheolaeth ataliol, cof gweithredol, hyblygrwydd gwybyddol, metawybyddiaeth a rheoleiddio emosiynol. Gyda’i gilydd, mae’r galluoedd hyn yn sail i hunanreoleiddio. Dyma’r galluoedd sy’n helpu plant i ganolbwyntio, i reoli eu hemosiynau, i gofio, ac i fyfyrio ar wahanol brofiadau ac ymateb iddynt.
Beth mae’r dystiolaeth yn ei ddweud?
Mae gweithredu goruchwyliol a hunanreoleiddio yn allweddol i ddatblygiad plant, ac mae tystiolaeth yn dangos eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar eu cyflawniad academaidd a’u twf emosiynol-gymdeithasol. Mae hefyd yn amlygu swyddogaeth rymus darllen ar y cyd: o astudiaethau niwroddelweddu i ymchwil ymddygiadol, ceir tystiolaeth gref i ddangos bod darllen ar y cyd yn gwella cof, sylw, hyblygrwydd a hunanreoleiddio plant. Yn y ddogfen friffio hon, rydym yn dangos sut mae darllen ar y cyd yn cael y mwyaf o effaith ar ddatblygiad plant o’r galluoedd hyn pan fydd oedolion yn rhannu llyfrau yn aml, yn ymatebol ac yn rhyngweithiol.
Lawrlwythwch y canllaw
Yn ein canllaw wedi’i hysbysu gan dystiolaeth, byddwch yn canfod
- Tystiolaeth ymchwil am wahanol fanteision darllen ar gyfer gweithredu goruchwyliol a hunanreoleiddio
- Sut y gall gweithwyr blynyddoedd cynnar proffesiynol hyrwyddo’r manteision hyn trwy ddarllen
- Cyngor ymarferol i’ch helpu i roi’r cwbl ar waith
- Enghraifft achos gan y London Early Years Foundation (LEYF)
- Argymhellion llyfrau