Cyflwyno Amser Stori BookTrust

Dyma rai awgrymiadau ac adnoddau i’ch helpu i gyflwyno sesiwn Amser Stori BookTrust wych yn eich llyfrgell.

Cynllunio eich sesiwn

Mae Amser Stori BookTrust wedi’i gynllunio i fod yn hyblyg i’ch llyfrgell ac i’r teuluoedd sy’n ymweld â hi. Mae ein prif awgrymiadau ar gyfer sesiwn wych yn cynnwys: 

  • Gwnewch i deuluoedd deimlo’n gyfforddus. Nodwch ddisgwyliadau’n gynnar. Er enghraifft, gwnewch yn siŵr bod rhieni a gofalwyr yn gwybod ei bod hi’n iawn os na fydd eu plant yn eistedd yn llonydd drwy’r amser. 
  • Ystyriwch ystod oedran y plant yn y sesiwn. Os oes llawer o blant iau yn y sesiwn, ceisiwch gynnwys mwy o rigymau ac ailadrodd. 
  • Cyflwynwch gymysgedd o bethau. Ceisiwch gynnwys cyfuniad o rigymau rhyngweithiol, straeon a gweithgareddau i gadw’r lefelau egni i fyny. 
  • Peidiwch â bod ofn ailadrodd. Mae ailadrodd rhigymau a straeon yn ffordd wych o roi cyfle i blant ymuno a dysgu geiriau ac ymadroddion newydd. 
  • Byddwch yn chi’ch hun. Cofiwch nad oes unrhyw ffordd gywir o rannu stori ac os ydych chi’n mwynhau eich hun bydd y plant yn mwynhau hefyd. 

Lledaenu’r gair

Mae Amser Stori BookTrust yn ffordd wych o annog teuluoedd newydd i ymweld â’r llyfrgell. Dyma rai ffyrdd y gallech chi hysbysebu eich sesiwn Amser Stori. 

  • Defnyddiwch bosteri Amser Stori BookTrust i hysbysebu eich gweithgareddau. Mae lleoedd gwych i arddangos y rhain yn cynnwys archfarchnadoedd, parciau a chanolfannau cymunedol lleol. 
  • Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol i ledaenu’r gair! Yn ogystal â phostio trwy eich sianeli cyfryngau cymdeithasol eich hun, gallech hefyd geisio rhannu’r wybodaeth mewn grwpiau cymunedol lleol perthnasol ar Facebook. 
  • Gall cydweithio â grwpiau cymunedol sydd eisoes wedi meithrin ymddiriedaeth â theuluoedd helpu i ennyn diddordeb mewn sesiynau Amser Stori BookTrust. Mae rhai llyfrgelloedd wedi cael llwyddiant wrth estyn allan at feithrinfeydd lleol, canolfannau plant, grwpiau babanod a phlant bach lleol, a mwy. 

Pleidleisio yng Ngwobr Amser Stori BookTrust

Mae enillydd y Wobr Amser Stori yn cael ei ddewis gan yr holl lyfrgelloedd sy’n cymryd rhan yn Amser Stori BookTrust. Gan ddechrau yn gynnar yn 2027, bydd llyfrgelloedd yn cael e‑bost a fydd yn rhoi mynediad i ffurflen bleidleisio i’w chwblhau. Allwn ni ddim aros i glywed eich barn! 

Canllaw caniatâd

Mae’r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth i chi ynghylch beth allwch chi ei wneud gyda’r llyfrau

Chwilio am ragor am Amser Stori?

Ewch i’n tudalen am raglen Amser Stori neu porwch drwy’r adnoddau