Mae’r gweithdy rhyngweithiol hwn sy’n para 2 awr yn cyflwyno myfyriwr-ymwelwyr iechyd i raglenni Dechrau Da Babi a Blynyddoedd Cynnar ac yn rhoi canllawiau ymarferol y gallwn nhw eu hymgorffori yn eu harfer.
Mae canllawiau arweiniol cynhwysfawr i’w cael i arweinwyr y gweithdai.
Mae’r gweithdy yn edrych ar y pynciau a ganlyn:
- Cyflwyniad i BookTrust Cymru a Dechrau Da
- Manteision rhannu darllen yn gynnar
- Trosolwg o becynnau Dechrau Da a negeseuon wrth wneud rhodd ohonyn nhw
- Cyfweliadau ag Ymwelwyr Iechyd a staff Llyfrgell
- Canllawiau ar gydweithio â phartneriaid Dechrau Da
Fe fyddwch chi hefyd yn cael:
- Awgrymiadau ar gyfer gwneud rhodd o’r pecynnau
- Ymchwil gefndir a phethau eraill i’w darllen