Sôn am Lyfr

Darganfod ein casgliad o weithgareddau ac adnoddau Sôn am Lyfr, rhan o raglen Pori Drwy Stori Meithrin

Defnyddiwch adnoddau Sôn am Lyfr rhwng dechrau mis Mawrth a diwedd mis Mehefin. Sigl-Di-Sglefren gan Caryl Hart a Nicola Slater, addasiad gan Megan Angharad Hunter a Llinos Dafydd ydy’r llyfr sydd wedi’i ddewis ar gyfer Sôn am Lyfr eleni. Byddwch chi’n derbyn copi dwyieithog o’r llyfr a set o adnoddau rhyngweithiol, o ansawdd uchel ar gyfer pob plentyn sydd wedi’i gofrestru i gymryd rhan yn rhaglen Feithrin Pori Drwy Stori.

Trefnwch a defnyddiwch yr adnoddau yn y ffordd sydd fwyaf addas i’ch ysgol neu’ch lleoliad chi. Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n lledaenu’r gweithgareddau dros nifer o wythnosau. Defnyddiwch y Canllaw i Ymarferwyr ar-lein a’r llythyr sydd wedi’i gynnwys yn eich parsel i’ch helpu i gynllunio sut a phryd y byddwch chi’n defnyddio’r gweithgareddau hyn.

Gwylio a gwrando ar Sigl di Sglefren

Gwyliwch ddarlleniad o Sigl-Di-Sglefren yn Gymraeg

Gwyliwch ddarlleniad o Sigl-Di-Sglefren yn Saesneg

Tynnwch lun gyda darlunydd Sigl-Di-Sglefren

Gwrando ar Sigl-Di-Sglefren yn Gymraeg

Adnoddau i’w lawrlwytho

Gweithgareddau