Trysorau Bychan
Cerdd newydd hyfryd am y trysorau bach y gall plant ddod o hyd iddyn nhw ar eu hanturiaethau dyddiol.

Am Casia Wiliam
Mae Casia Wiliam yn fardd ac yn awdur. Cyhoeddodd Eiliad ac Einioes, ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth i oedolion yn ystod haf y pandemig, 2020. Enillodd Wobr Tir na Nog yn 2021 am ei nofel i blant, Sw Sara Mai. Yn ogystal â chyhoeddi gwaith gwreiddiol mae Casia wedi addasu nifer o straeon a nofelau adnabyddus o Saesneg i Gymraeg.
Casia oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2017 a 2019, a bu’n aelod o dîm Y Ffoaduriaid ar gyfres Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru am ddegawd, rhwng 2009 a 2019, cyn symud o Gaerdydd.
Mae Casia bellach yn byw yng Nghaernarfon efo’i gŵr Tom a’u meibion, Caio a Deri.
Mwy o rigymau
-
Cân ddwyieithog hyfryd newydd sy’n odli! Holl anifeiliaid neidio ar gefn tractor y fferm cyn i’r haul fachlud am y dydd.
-
Stori odlihwyliog a deniadol syn ychwanegu mwy a mwy o Gymraeg wrth fynd ymlaen.