Diwrnod ar y Fferm
Cân ddwyieithog hyfryd newydd sy’n odli! Holl anifeiliaid neidio ar gefn tractor y fferm cyn i’r haul fachlud am y dydd.
Am Babis Bach Babies
Mae Babis Bach Babies yn cyfuno cerddoriaeth fyw gan gerddorion proffesiynol gydag adrodd straeon mewn ffordd ryngweithiol. Nod eu sesiynau yw cefnogi addysg cyn-ysgol trwy annog dysgu Cymraeg a Saesneg, cyflwyno themâu priodol trwy ganu a symud a datblygu hyder wrth gymryd rhan.
Fe wnaeth Megan (telynores) ac Ellie (storïwr) gwrdd yn 2011 pan oedden nhw’n astudio yn CBCDC. Ar ôl graddio, aethon nhw ar wahanol lwybrau gyrfa ym meysydd cerddoriaeth, addysg ac iechyd meddwl mamau. Yn 2021 fe gyfarfu’r ddwy, gyda’u babis bach a thrafod yr angen am ddosbarth dwyieithog oedd yn cyfuno’u holl sgiliau. Dyna sut y ffurfiwyd Babis Bach Babies.
Mae’r ddwy’n byw ym Mhont-y-clun gyda’u partneriaid a rhyngddynt mae ganddynt bump o blant o dan 3 oed.
Mwy o rigymau
-
Stori odlihwyliog a deniadol syn ychwanegu mwy a mwy o Gymraeg wrth fynd ymlaen.
-
Cerdd newydd hyfryd am y trysorau bach y gall plant ddod o hyd iddyn nhw ar eu hanturiaethau dyddiol.