English Cymraeg

Cyngor gwych wrth gyflwyno Bookbuzz Uwchradd i’ch myfyrwyr

Dyma rai ffyrdd y gallech chi gyflwyno Bookbuzz Uwchradd i’ch myfyrwyr yn eu sesiynau llyfrgell neu ddosbarthiadau Saesneg.

  • Lawrlwytho ac argraffu copïau o’r cwis Beth yw fy hoff genre? o Ardal
    Cydlynwyr Bookbuzz Uwchradd i helpu’ch myfyrwyr i hidlo eu dewis o’r casgliad llawn.
  • Gwylio Ffilm Bookbuzz Uwchradd 2025 a chlywed yr awduron yn cyflwyno’u llyfrau i’ch myfyrwyr. Mae’r ffilm yn adnodd gwych i gefnogi myfyrwyr i ddewis eu hoff deitl.
  • Rhannu’r crynodeb hirach o bob llyfr gyda’r myfyrwyr i roi mwy o wybodaeth iddyn nhw am y casgliad
  • Lawrlwytho PowerPoint Llyfrau Bookbuzz Uwchradd o Ardal Cydlynwyr Bookbuzz Uwchradd. Rhowch y cyflwyniad ar y sgrin ac annog y myfyrwyr i drafod pa lyfr sy’n apelio atynt. Rydyn ni wedi creu canllawiau trafod byr i helpu gyda hyn.
  • Ar ôl i’r myfyrwyr ddod yn gyfarwydd â’r llyfrau a’u bod wedi gwneud eu dewis, gallan nhw farcio pa lyfr yr hoffen nhw ei gael ar eu llyfrnod Fy Newis. Yna gallwch gadw’r llyfrnodau nes eich bod chi’n barod i archebu.

Ar ôl i chi gasglu’r Llyfrnodau Fy Newis gan y myfyrwyr, gallwch lawrlwytho ac argraffu copi o Ffurflen Archebu Dosbarth o Ardal Cydlynwyr Bookbuzz Uwchradd, yna nodwch ddewis pob myfyriwr cyn gosod eich archeb.

Cadwch y ffurflen a’r Llyfrnodau Fy Newis yn ddiogel a rhowch label ar lyfr pob myfyriwr pan fydd yn cyrraedd.