Enwebwch Rannwr Storïau o fri i ennill llun gwreiddiol gan Axel Scheffler
Cymerwch ran am gyfle i ennill paentiad bach wedi'i lofnodi o'r cyw bach a'r iâr fawr ar gyfer Rhannwr Storïau arbennig rydych chi'n ei adnabod.
Rydyn ni wedi mwynhau dathlu'r holl Ranwyr Storïau o fri yr wythnos hon - a nawr rydyn ni'n rhoi cyfle i chi wobrwyo rhywun arbennig gyda llun hardd gan Axel Scheffler.
Mae Axel, y mae ei lyfr Pwy sy'n Cuddio ar y Fferm? wedi'i gynnwys yn y pecyn Dechrau Da Babi diweddaraf, wedi creu'r paentiad bach unigryw hwn o'r cyw bach a'r iâr fawr o'r stori.
Wedi'i lofnodi gan Axel ac mewn lliw llawn, mae'n sicr o fod yn eitem i'w thrysori a byddem wrth ein bodd yn ei rhoi i rywun sydd wedi gwneud pethau anhygoel i rannu hud darllen gyda theuluoedd.
Os gwyddoch chi am rywun sy'n haeddu gwobr arbennig, enwebwch nhw gan ddefnyddio'r ffurflen isod cyn y dyddiad cau sef 11pm ddydd Gwener, 24 Tachwedd a bydd panel beirniadu BookTrust yn dewis yr enillydd.
Sylwch: mae'r gystadleuaeth hon ar gyfer pobl sy'n gweithio gyda phlant ac yn rhannu adnoddau BookTrust gyda theuluoedd, a rhaid i chi gael caniatâd y person rydych chi'n eu henwebu i rannu eu manylion.