You and Your Body
gan Dr Punam Krishan, darluniau gan Verónika Cháves Morales
Oedran diddordeb: 6 i 8
Oedran darllen: 6+
Cyhoeddwr DK
Am y llyfr hwn
Gall eich corff wneud pob math o bethau anhygoel. Mae eich calon yn pwmpio gwaed yn gyson. Mae eich ysgyfaint bob amser yn anadlu. Ac mae eich ymennydd yn rheoli’r cwbl!
Darganfyddwch ragor o fanylion – fel pa un yw’r cyhyr mwyaf yn y corff neu sut y gall eich croen drwsio cwt – yn y llyfr codi’r llabed difyr ac addysgiadol hwn. Mae Dr Punam Krishan yn adnabyddus fel meddyg teulu a bydd ei ffeithiau cryno am sut mae’r corff yn gweithio yn swyno darllenwyr ifanc.
Ceir mwy na 90 o labedi i’w hagor yma, â rhagor o wybodaeth a llun pelydr X neu ‘o dan y croen’ yn aml, i ddangos mwy o fanylion. Mae codi llabedi bob amser yn ormod o demtasiwn, ac mae’r tudalennau hyn wedi’u gwneud o gardfwrdd cadarn, sy’n golygu y bydd y llyfr yn ddigon gwydn i wrthsefyll darllen a chodi llabedi dro ar ôl tro.
Mae llawer wedi’i bacio i mewn i ddim ond wyth maes pwyslais, y cwbl wedi’i dargedu’n briodol at y rhai sydd newydd ddechrau darllen o ran cynnwys a lefel geiriau. Mae’r lluniau deniadol gan Verónika Cháves Morales yn cynnwys amrywiaeth o blant del a diagramau wedi’u labelu’n eglur o rannau o’r corff, fel ysgyfaint, esgyrn a chyhyrau. Golwg gyntaf ddefnyddiol ar sut mae cyrff yn gweithio.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Dr Roopa’s Body Books: The Brilliant Brain
5 i 9 years
-
Seek and Find: Ocean Animals
5 i 9 years
-
20 o bobl Lliwgar Cymru
5 i 9 years
-
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: ar gyfer plant 6 i 7 oed
Y llyfrau gorau o 2024–25 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 6–7 oed