When I See Blue
gan Lily Bailey
Oedran diddordeb: 9 i 11
Oedran darllen: 9+
Cyhoeddwr Hachette, 2022
Am y llyfr hwn
Mae Ben, sy’n ddeuddeg oed, yn cael ei fwlio. Mae ei reolau OCD yn deddfu pob symudiad ganddo, yn ceisio’i rwystro rhag byw bywyd fel y mae pobl niwronodweddiadol yn ei wneud.
P’un ai’n osgoi ambell liw penodol neu’n gwneud pethau drosodd a throsodd a hynny bedair gwaith neu wyth neu ddeuddeg ac ati, mae ceisio cadw at y rheolau cudd hyn yn ei flino’n llwyr – heb sôn am yr ymdrech i guddio hyn rhag eraill. Ond os nad ydy Ben yn gwrando ar y bwli yn ei ben, yna mae rhywbeth drwg yn siŵr o ddigwydd yn does?
Yn ffodus, gyda help pobl eraill, mae Ben yn gallu dechrau cael y nerth sydd ei angen arno i ddechrau cymryd rheolaeth ar bethau eto. Stori sydd yn llais y cymeriad ei hun, sy’n argyhoeddi, gyda chyffyrddiad ysgafn a digon o gyfeiriadau at Dr Who.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Gwen ac Arianrhod
9 i 14 years
-
Unfairies
5 i 14 years
-
Gloam
9 i 14 years
-
Cold Turkey
9 i 14 years