English Cymraeg

The Beanstalk Murder

gan P G Bell

Oedran diddordeb: 9 i 11
Oedran darllen: 9+

Cyhoeddwr Usborne, 2024

  • Adventure
  • Fantasy

Am y llyfr hwn

Mae pentref Old Stump - a gafodd yr enw hwnnw gan ei fod wedi’i leoli ar fôn un o’r coed hud a oedd yn arfer cysylltu byd y cewri uwchben gyda’r byd dynol islaw - yn lle cysglyd.

Does dim llawer yn digwydd tan y diwrnod y mae cawr marw enfawr yn syrthio o’r awyr, gan chwalu’r pentref cyfan! A ddaw’n amlwg nad oedd marwolaeth y cawr yn ddamwain, ceir llofruddiaeth i’w ddatrys. 

Mae Anwen, Gwrach Ddôl dan hyfforddiant, a’i gelyn pennaf Cerys, Uchel Wrach, yn cael eu cludo ar ddamwain i fyny coeden ffa i’r Sky Kingdom lle maen nhw’n dod yn rhan o’r gwaith o chwilio am y llofrudd.

Er gwaethaf y ffaith nad ydynt yn hoffi ei gilydd, maen nhw’n darganfod efallai, pan ddaw i ddod o hyd i gliwiau a gwneud synnwyr o’r dystiolaeth, fod dau feddwl yn well nag un. Ond nid yw’n dasg hawdd pan all y rhai sydd dan amheuaeth eich sathru gyda dim ond cam.  

Gan gymryd ysbrydoliaeth o hanes Jac a’r Goeden Ffa, mae’r dirgelwch llofruddiaeth hynod hwn yn glyfar, yn ddoniol ac yn llawn trywyddion di-sail a sgwarnogod.  

Perffaith i ddarpar dditectifs ymarfer eu sgiliau - yn enwedig os ydyn nhw’n hoffi rhyw fymryn o hud gyda’u dirgelwch.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn