Llyfr Bwrdd 100 Gair Nadolig
gan Roger Priddy
Adapted by Ryan Head
Oedran diddordeb: 0 i 3
Cyhoeddwr Rily Publications, 2019
Am y llyfr hwn
Dyma lyfr bwrdd hyfryd o 100 o eiriau cyntaf Nadoligaidd a gaeafol. Gyda ffotograffau hyfryd mae'r llyfr yn faint perffaith ar gyfer dwylo bach. Ar bob tudalen ddwbl mae lluniau yn ymwneud â thema Nadoligaidd wahanol o addurniadau i ddillad gaeaf cynnes, clyd, ac o Siôn Corn i grefftau Nadolig.
Mae'r amrywiaeth o ffotograffau yn gwneud y llyfr hwn yn ddelfrydol i chi baratoi at Nadolig cyntaf plentyn, neu siarad â phlentyn am bethau newydd a chyfarwydd. Bydd babanod yn siŵr o fod eisiau darllen y llyfr hwn drosodd a throsodd a thro. Gyda phlant meithrin gallech ddefnyddio'r lluniau fel pwynt trafod gyda grŵp o blant er mwyn iddynt ddysgu am arferion Nadoligaidd eu ffrindiau a'u cyfoedion.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
-
Annwyl Sw / Dear Zoo
0 i 7 years
-
Carw Nadolig Olwen
0 i 7 years
-
Chwarae gyda Cymro / Playtime with Cymro
0 i 4 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Festive books in Welsh and English / Llyfrau Nadoligaidd yn Gymraeg a Saesneg
We’re filling our stockings with our favourite festive books in Welsh and English. Rydyn ni'n llenwi ein hosanau Nadolig gyda'n hoff lyfrau Nadoligaidd yn Gymraeg a Saesneg.