English Cymraeg

Lizzie and Lucky: The Mystery of the Disappearing Rabbit

gan Megan Rix, darluniau gan Tim Budgen

Oedran diddordeb: 6 i 8
Oedran darllen: 5+

Cyhoeddwr Penguin Random House, 2023

  • Chapter books
  • Deafness

Am y llyfr hwn

Mae yna gystadleuaeth hud yn y dref ac mae Lizzie, ei chi Lucky a'i ffrind Ted yn llawn cyffro i'w gweld. Bydd yr enwog Lady Azeena'n perfformio gyda'i chwningen Ruby – ac mae hi'n fyddar fel Lizzie, felly mae'r digwyddiad yn fwy arbennig byth. Ond, pan aiff Ruby ar goll, mae'n amser i Lizzie a Lucky ddatrys ambell gliw.

Mae Lizzie a'i theulu i gyd yn defnyddio iaith arwyddion, sy'n cael ei chynnwys yn gwbl naturiol yn y stori. Mae profiad yr awdur o fod yn rhannol fyddar yn golygu ei bod yn awyddus iawn i rannu'r iaith hyfryd hon, ac yn y cefn mae hi wedi cynnwys llythrennau'r wyddor yn Iaith Arwyddion Prydain hefyd.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn