English Cymraeg

Hamster Heroes

gan Peter Bently, darluniau gan John Bond

Oedran diddordeb: 4 i 7
Oedran darllen: 7+

Cyhoeddwr HarperCollins, 2024

  • Funny
  • Picture books
  • Poetry and rhyme

Am y llyfr hwn

Pan fyddwch chi’n meddwl am fochdewion, efallai y bydd gennych chi lun o anifeiliaid anwes blewog sy’n hepian mewn blawd llif. Wel, mae gan y creaduriaid anwesol hyn fywyd cyfrinachol... dyma’r Hamster Heroes! Maen nhw’n wynebu llawer o beryglon (gan gynnwys estroniaid a tsintsilas anferth), ond trwy gyfuno eu pwerau, maen nhw’n llwyddo i achub y dydd.

Bydd plant wrth eu bodd ag egni a hiwmor y llyfr lluniau odli hwn, ac mae cymeriadau archarwyr hawdd eu hadnabod yn ychwanegu diddordeb. Mae’r darluniau’n ddeinamig, ac mae’r testun yn rhythmig, yn ddoniol ac yn llawn mwyseiriau, gan ei wneud yn ddewis ardderchog i ddarllen yn uchel.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn