Flame Chasers
gan Julie Pike
Oedran diddordeb: 9 i 11
Oedran darllen: 9+
Cyhoeddwr Firefly, 2024
Am y llyfr hwn
Tra ar fordaith i ddod o hyd i’r flamebird hudol mae tad Ember yn mynd ar goll. O ganlyniad, mae trywydd bywyd Ember yn newid am byth. Pan ddaw cwch newydd, gyda’i griw o fam a mab, i’r lan ger ei chartref mae Ember yn cael y cyfle i wireddu ei breuddwyd a mynd i chwilio am ei thad. Ond erbyn hyn mae mwy yn y fantol. Mae Ember wedi dod yn ffrindiau gyda flamebird sydd wedi’i hanafu ac mae’n rhaid cael yr aderyn yn ôl adref cyn iddi golli’r bluen olaf ar ei chefn. Beth sy’n dilyn yw antur yn llawn trobyllau, stormydd a’r Capten Flynn dirgel. Caiff sawl cyfeillgarwch eu creu, caiff gwersi eu dysgu a chaiff dymuniadau eu gwneud a daw rhai yn wir! Dyma lyfr hudol am rym teulu, cyfeillgarwch a pheidio â cholli gobaith.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Pirates of Darksea
9 i 14 years
-
The Last Dragon on Mars
9 i 14 years
-
-
Relic Hamilton: Genie Hunter
9 i 14 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych Cymru 2024-25: Ar gyfer plant 10 i 11 oed
Y llyfrau gorau o 2024-25 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 10-11 oed.