English Cymraeg

Dwmbwr Dambar / Rumble Tumble

gan Ben Newman
Adapted by Elin Meek

Cyhoeddwr Dref Wen, 2022

Am y llyfr hwn

Mae Arth yn mynd am dro ond mae ei sylw ar y frechdan fawr y mae ar fin ei bwyta, yn hytrach nag ar ble mae’n mynd. Mae’n baglu dros garreg ac yn powlio i lawr y bryn, gan fynd â phob math o greaduriaid gydag ef. Caiff sawl deigryn ei golli wrth iddyn nhw lanio’n un pentwr ar y gwaelod, ond mae gan Arth ateb caredig i wneud i bawb deimlo’n well.

Stori rhowlio a phowlio ddoniol, gyda thudalennau mewnol llai a geiriau swnllyd i blant ac oedolion ddweud gyda’i gilydd.

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn