English Cymraeg

Dadaji’s Paintbrush

gan Rashmi Sirdeshpande, darluniau gan Ruchi Mhasane

Oedran diddordeb: 4 i 5

Cyhoeddwr Andersen Press, 2022

  • Picture books

Am y llyfr hwn

Mae bachgen yn byw mewn pentref bach yn yr India gyda'i dadaji (taid). Maen nhw'n gwneud popeth gyda'i gilydd – o werthu ffrwythau yn y farchnad i hwylio cychod papur. Ond yn fwy na dim, maen nhw wrth eu boddau'n paentio gyda'i gilydd.

Ar ôl dechrau gyda phaentio â bysedd, mae'r bachgen yn datblygu i baentio â brwshys wedi'u gwneud o frigau tra bo plant y pentref yn gwylio trwy'r ffenestr. Un diwrnod, mae Dadaji yn marw, ac mae byd y bachgen bach yn troi yn fyd llwyd ac unig. A fydd paentio'n cynnig ffordd iddo ddianc rhag ei alar a'i golled?

Mae'r llyfr lluniau hwn, â lliwiau'r India'n ffrwydro o'i fewn, yn llawn teimlad ac emosiwn ac yn sicr o'ch cyffwrdd.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn