Cynan a’r Enfys
gan Julia Rawlinson, darluniau gan Tiphanie Beake
Oedran diddordeb: 6 i 7
Cyhoeddwr Graffeg, 2023
Am y llyfr hwn
Dyma lyfr arall mewn cyfres o straeon syml a hyfryd am Cynan y llwynog a’i berthynas â byd natur. Enfys sydd yn dal sylw’r llwynog y tro hwn a’i her yw sicrhau y bydd yr enfys yn disgleirio am byth. Er mwyn trio cyflawni hyn, mae Cynan yn mynd ar daith drwy’r goedwig. Yn ystod y daith, mae’n dod ar draws llawer o ryfeddodau natur ac mae Cynan yn sylweddoli pa mor lliwgar yw’r byd sydd o’i gwmpas. Gyda lluniau arbennig Tiphanie Beake, grym y llyfr hwn yw'r ffordd mae’n ennyn plant i stopio ac edrych ar y byd lliwgar byd natur sydd o’u cwmpas bob dydd fel petaent yn ei wneud am y tro cyntaf.
Testun a fydd yn tanio gwaith ar draws y cwricwlwm ond yn enwedig ym meysydd:
Iechyd a Lles, Y Dyniaethau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Megs
5 i 9 years
-
Dymuniad Dylan I Ble Aeth yr Athrawon?
5 i 9 years
-
20 o bobl Lliwgar Cymru
5 i 9 years
-
Ysgol Arswyd
5 i 9 years