English Cymraeg

Cosima Unfortunate Steals a Star

gan Laura Noakes, darluniau gan Flavia Sorrentino

Oedran diddordeb: 8+
Oedran darllen: 9 i 11

Cyhoeddwr HarperCollins, 2023

  • Adventure
  • Historical
  • Dyslexia

Am y llyfr hwn

Dros y blynyddoedd mae Cos, sy’n 12 oed, wedi cael cwmni llawer o ‘anffodusion’ eraill yn y Cartref i Ferched Anffodus – plant anabl i’w cuddio o olwg y gymdeithas Fictoraidd.

Pan mae ymwelydd dirgel eisiau mabwysiadu pob un o’r 20 merch ar gyfer ei arddangosfa ymerodrol amheus, mae Cos a’i ffrindiau’n mynd ati i ddatgelu’r gwir am y cnaf. Yn ystod y daith, bydd Cos yn dod o hyd i gliwiau i helpu i ddatrys dirgelwch arall – sef pwy oedd ei rhieni.

Mae Cos yn brif gymeriad hyfryd – penderfynol, amherffaith a charismataidd. Mae gan yr awdur (fel ei harwres) anhwylder sbectrwm gorsymudedd, ac mae’n cymysgu manylion dilys yn effeithiol heb dynnu sylw oddi wrth yr adrodd stori dyfeisgar.

Yn ddoniol ond hefyd yn gwneud ichi feddwl, mae hon yn antur dirgelwch wahanol i’r arfer.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn