The Lizzie and Belle Mysteries: Drama and Danger
gan J.T. Willams
Oedran diddordeb: 12 i 14
Oedran darllen: 8+
Cyhoeddwr Farshore, 2022
Am y llyfr hwn
Mae Lizzie Sancho’n byw gyda’i theulu mawr yn eu caffi yng nghalon Llundain brysur. Mae Dido Belle yn aeres unig sy’n byw gyda’i modryb a’i hewythr mewn plasty ger Hampstead Heath. Ond pan maen nhw’n dal llygaid ei gilydd yn y theatr un noson, mae’r ddwy wrth eu boddau o weld merch Ddu arall o’r un oed.
A phan mae tad Lizzie, sy’n actor, bron yn cael ei ladd gan siandelïer sy’n cwympo, mae’r ddwy yn gwybod nad damwain oedd hyn. A fedr Lizzie a Belle ddefnyddio’u cyfeillgarwch newydd a stopio’r darpar lofrudd?
Yn llawn awyrgylch a thensiwn, mae hwn yn ddirgelwch pleserus wedi’i osod yn y cyfnod Sioraidd.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Clem Fatale Has Been Betrayed
9 i 14 years
-
The Candleman
11 i 14 years
-
People Like Stars
9 i 14 years
-
Clem Fatale Has Been Betrayed
9 i 14 years